Prentis Effeithiau Arbennig

CEISIADAU WEDI CAU

Cwmni: Real SFX

Rôl Prentisiaeth: Prentis Effeithiau Arbennig

Lleoliad: Caerdydd

Am y Sefydliad

Mae Real SFX yn gwmni effeithiau arbennig ymarferol sy’n arbenigo mewn effeithiau atmosfferig, tân, ffrwydron, rigiau mecanyddol, modelau a phropiau meddal. Mae’r tîm o oruchwylwyr a thechnegwyr medrus yn creu effeithiau corfforol pwrpasol ar gyfer y diwydiant Teledu, Ffilm a Digwyddiadau. Gyda’r gweithdy llawn swyddogaethol yng Nghaerdydd, mae’r tîm yn teithio ledled y DU yn gweithio ar gynyrchiadau teledu megis Peaky Blinders, Luther a Sherlock yn ogystal â ffilmiau nodwedd megis Free Fire, Show Dogs, Final Score a Hunter Killer.

Disgrifiad Swydd

Mae Real SFX yn recriwtio am Brentis Effeithiau Arbennig i ymuno â’u tîm yng Nghaerdydd. Plis nodwch nad yw hon yn swydd sy’n cynnwys prostheteg neu golur ac nid yw Real SFX yn gwmni CGI ond yn gwmni effeithiau arbennig sy’n creu amrywiaeth o effeithiau arbennig corfforol. Fel prentis byddwch yn gweithio yn y gweithdy yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel rhan o’r criw yn helpu i greu, adeiladu a gweithredu effeithiau arbennig corfforol.

Bydd y Prentis Effeithiau Arbennig delfrydol gyda:

  • Trwydded gyrru glan efo oleia 3 blynedd o brofiad gyrru
  • Agwedd hyblyg i oriau gwaith
  • Diddordeb mewn peirianneg, mecaneg, gwaith coed, gwaith trydan a gwneud modelau
  • Agwedd hyblyg ac arloesol, yn mwynhau dysgu ac yn gallu meddwl yn chwim  i ddatrys problemau
  • Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch ac yn barod i wrando a dysgu oddi wrth y technegwyr profiadol
  • Sgiliau gwrando a chyfathrebu cryf
  • Yn gweithio’n dda fel rhan o dîm
  • Yn fodlon teithio ar gyfer gwaith gan fod Real SFX yn gweithio dros y DU i gyd

Bydd gofyn i’r Prentis Effeithiau Arbennig:

  • Gadw’r gweithdy yn lan ac yn daclus er mwyn cadw safle gweithio saff i’r tîm
  • Gosod a ddadlwytho ‘kit’ ar gyfer cynyrchiadau ar faniau y cwmni
  • Cadw llygad ar stoc a’u hail-archebu pan fo’r angen
  • Cadw stoc, gosodiadau a ffitiadau yn drefnus ac yn daclus
  • Cynorthwyo’r Technegwyr Effeithiau Arbennig gyda’r cynnal a chadw o’r offer ac effeithiau
  • Cwblhau tasgiau rhwng yr adran Effeithiau Arbennig ac adrannau eraill
  • Dysgu am y wahanol fathau o effeithiau arbennig a pha offer a deunyddiau sydd angen eu creu
  • Cadw tystiolaeth o’r gweithle ar gyfer y cymhwyster Diploma

Tra’n gweithio fel Prentis Effeithiau Arbennig bydd gennych y cyfle i ddysgu amrywiaeth o sgiliau o fewn y gweithdy. Hefyd bydd gennych gyfle i ddefnyddio amrywiaeth o beiriannau arbenigol sydd yn cael eu defnyddio ar gyfer effeithiau arbennig fel gwynt, glaw, eira a thân. Bydd hyn yn rhoi’r siawns i weld y broses effeithiau arbennig a sut i ddefnyddio pyrotechnics yn gywir.

Sgiliau dymunol ond nid yn hanfodol:

  • Rhygl yn y Gymraeg
  • Yn gallu defnyddio Microsoft Office e.e. Word ac Excel

Fframwaith

Tra’n gweithio i Real SFX byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.

Cyflog

Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw £14,400 y flwyddyn.

Sut i Ymgeisio

Cliciwch yma i gwblhau y ffurflen gais.

Os oes ganddoch unrhyw gwestiynnau am y prentisiaethau, edrychwch ar ein Cwestiynnau Cyffredin.

Dyddiad Cau:

Canol dydd, Dydd Llun, 29ain o Dachwedd 2021.

Dyddiad Dechrau:

Dydd Llun, 24ain o Ionawr 2022.