Sut i fod yn Brentis Gwych – cyngor o safbwynt cynhyrchydd!

Vox Pictures

Fe wnaethon ni ofyn i Llyr Morus, Cynhyrchydd / Pennaeth Cynhyrchu Vox Pictures beth mae’n meddwl sy’n gwneud Prentis gwych yn y diwydiant hwn.

  • Diddordeb mewn drama
  • Ymwybyddiaeth o ddramau cyfredol
  • Trwydded yrru lan
  • Hyblygrwydd i weithio oriau anghymdeithasol
  • Hoffi boreau cynnar!
  • Gallu i weithio mewn tim
  • Egni a brwdfrydedd!
  • Sgiliau cymdeithasol a pharch i ddelio gyda actorion, criw ac aelodau o’r cyhoedd
  • Cyfrinachedd – i beidio rhannu gwybodaeth am gynhyrchiad
  • Hyder! Yn enwedig pan yn ymuno a chriw am un diwrnod (fel ‘Daily’) ac felly ddim llawer o amser i setlo a chreu argraff

Llyr Morus – Cynhyrchydd / Pennaeth Cynhyrchu Vox Pictures
Dechreuodd Llyr Morus ei yrfa yn gweithio ym maes cynhyrchu dros 27 mlynedd yn ôl. Dechreuodd ar sioeau Adloniant yn y stiwdio ac ar leoliad, cyn symud i mewn i Deledu Plant. 22 mlynedd yn ôl dechreuodd weithio ym maes Drama, ar gynyrchiadau Cymraeg a Saesneg, gan weithio ei ffordd i fyny o swydd Rhedwr i Swyddog Cynhyrchu a Chynhyrchydd Gweithredol. Bu’n gweithio yn y sector annibynnol yn ogystal â BBC Cymru/Wales a BBC Studios ar raglenni megis Upstairs Downstairs, Wizards vs Aliens, The Game, Eric & Ernie ac Under Milk Wood.

Mae Llyr yn frwd dros ddatblygu talent newydd o fewn y diwydiant a bu’n cynrychioli y BBC ar lawer o fyrddau datblygu ac yn Gynhyrchydd Gweithredol ar gynllun ffilm fer It’s My Shout am 4 blynedd – cynllun sydd wedi llwyddo i gyflwyno llawer o dalentau amrywiol newydd i’r diwydiant. Ar hyn o bryd mae Llyr yn Gynhyrchydd a Phennaeth Cynhyrchu yn Vox Pictures ac wedi gweithio ar Un Bore Mercher 3, Cyswllt a Fflam.

Mae Sgil Cymru yma i’ch helpu chi gyda’ch gyrfa yn y cyfryngau.
Mae ceisiadau ar agor nawr ar gyfer ein cynllun Prentisiaeth CRIW.