Cwrs Camu Fyny i Cydlynydd Cynhyrchu Ffilm ScreenSkills mewn cysylltiad â Sgil Cymru

Mae cynnwys y cwrs yma – a gefnogir gan gronfa ScreenSkills fel rhan o’r rhaglen BFI Future Film Skills gan ddefnyddio  cronfa y Loteri Genedlaethol  – yn rhoi sylfaen drylwyr i arferion gwaith Cydlynydd Cynhyrchu Ffilm.

Dulliau cyflwyno:

Cyflwynir y cwrs trwy weithdai rhithwir a gynhelir dros bedwar diwrnod ar ol eu gilydd, rhwng 1030 a 1300, dros Zoom. Mi fydd disgwyl i’r holl gyfranogwyr fynychu pob diwrnod o hyfforddiant er mwyn cyflawni pob un o’r canlyniadau dysgu, gan gynnwys:  

  •  Beth yw Cydlynydd Cynhyrchu ffilm?
  •  Beth yw prif gyfrifoldebau y rôl?
  • Cynorthwyo y Rheolwr Cynhyrchu
  •  Dirprwyo i’r  Ysgrifennydd Cynhyrchu
  • Gweithio ar draws yr adrannau
  • Sut mae’r rôl yn newid o un cynhyrchiad i’r llall a sut mae graddfa cynhyrchiad yn effeithio ar y rol
  • Arolwg o’r gwaith papur, gan gynnwys:  Call Sheets, Health & Safety and Risk Assessments; Working with Locations & Movement Orders
  • Adroddiadau dyddiol
  • Cyn-gynhyrchu gan gynnwys castio a recce lleoliadau
  • Amddiffynnu plant, trwyddedau, DBS a dod o hyd i chaperone
  • Cydymffurfiad, cyfrinachedd, a GDPR 
  • Rhestrau Criw 
  • Rhestrau Cast

 Mae’r cwrs yma yn adnodd ar-lein ar gyfer y rhai sydd yn gweithio ar lefel iau yn yr adran gynhyrchu ffilm (neu sydd yn barod i gamu i fyny o adrannau eraill) er mwyn datblygu eu gwybodaeth angenrheidiol.  Bydd y cwrs hwn yn berffaith i’r rheiny sydd yn barod yn gweithio fel Cynorthwyydd Cynhyrchu Ffilm neu fel Ysgrifennydd Ffilm, sydd yn barod i gamu i fyny neu ar draws i’r rol Cydlynydd Cynhyrchu Ffilm.

Disgwylir i’r ymgeisydd gael o leiaf dwy flynedd o brofiad o weithio o fewn cynhyrchiadau ffilm neu ddrama, a bydd disgwyl iddynt brofi hyn trwy ddangos rhestr o gredydau.

Pryd mae’r cwrs?

Hydref 18fed – 21ain, 2021 rhwng 1030 a 1300

Dyddiad Cau:

1200 o’r gloch ar y 12fed o Hydref 2021

Ble fydd y cwrs yn cael ei gynnal?

Ar-lein drwy Zoom

Faint bydd y cwrs yn gostio?

Gan fod y gwrs yma wedi ei gefnogi gan gronfa ScreenSkills fel rhan o’r rhaglen BFI Future Film Skills gan ddefnyddio cronfa y Loteri Genedlaethol, mae’n rhad ac am ddim i’r cyfranogwr.

Cyflwyno eich cais

Anfonwch eich CV a 250 o eiriau am pam rydych chi moen cymryd rhan yn y cwrs yma i help@sgilcymru.com