Swydd Sgil Cymru

Mae Sgil Cymru yn chwilio am Reolwr Marchnata sydd yn gallu cyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg a Saesneg i ddechrau ar y gwaith yn y flwyddyn newydd.  Bydd yn person arbennig yma yn arwain y  marchnata a recriwtio ar gyfer ein holl gyrsiau hyfforddi, gan gynnwys prentisiaethau, yn ogystal a diweddaru gwefan Sgil Cymru.   Gall y swydd hon fod yn rhan amser, ac wedi ei leoli yn hyblyg i’r person iawn sydd am ymuno a chwmni sydd yn mynd o nerth i nerth.  Cyflog £150 y dydd, nifer y dyddiau i’w drafod.

Anfonwch e-bost i help@sgilcymru.com gan atodi eich CV ac fe ddown yn ôl atoch cyngynted â phosibl.