Ar y 25ain o Ionawr croesawyd Sgil Cymru, darparwr hyfforddiant i’r cyfryngau, dros gant o westeion diwydiant i Pinewood Studio Cymru ar gyfer yr ail flwyddyn o’r digwyddiad ‘Dathliad’.
Mae’r ‘Dathliad’ yn siawns i gydnabod llwyddiant hyfforddiant Sgil Cymru tra’n rhoi siawns i weithwyr proffesiynol y diwydiant i rwydweithio.
Noddwyd y noson gan Wales Screen/Sgrîn Cymru, Lockett TV & Film Transport, a Choleg Caerdydd a’r Fro trwy’r Cynghrair Ansawdd Sgiliau, gyda’r gwesteion yn cynnwys cyn-fynychwyr cyrsiau blaenorol Sgil Cymru, prentisiaid a gweithwyr proffessiynol y diwydiant sy’n gweithio o fewn Cymru ag ar draws y DU.
Mae Sgil Cymru yn ddathlu’r llwyddiant o 26 prentis creadigol yn pasio eu fframweithiau gyda’r mwyafrif ohonynt yn parhau i weithio o fewn y diwydiannau creadigol i gyflogwyr fel BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Golley Slater.
Am yr ail flwyddyn yn olynol uchafbwynt y noson oedd gwobr a rhoddwyd gan Creative Risk Solutions sydd yn cydnabod llwyddiant cyn brentis sydd yn ysbrydoliaeth i brentisiaid y dyfodol. Cyflwynwyd y wobr o £250 i Molleasha Quinn.
Dechreuodd Molleasha weithio mewn Drama teledu fel Prentis Adran Gelf i BBC Cymru Wales yn syth ar ol iddi gwblhau ei lefelau A yn 2015. Ar ol cwblhau ei phrentisiaeth cafodd Molleasha swydd fel Cyfarwyddwraig Celf ar Pobol Y Cwm ac ers hynny mae hi wedi gweithio fel Cyfarwyddwraig Celf ar Casualty yn ogystal a Gwisgo Setiau ar Emmerdale. Er mwyn gwella ei sgiliau aeth Molleasha i Los Angeles i hyfforddi mewn dylunio graffeg.
Ar ol dwy flynedd yn Pinewood Studio Cymru mae Sgil Cymru wedi sefydlu ei hun fel yr hyfforddwr mwyaf blaenllaw i’r cyfryngau gyda’i gwahanol raglenni. Maent yn amrywio o brentisiaeth i newydd ddyfodiaid i gyrsiau i Reolwyr Cynhyrchu o fewn y diwydiant ffilm. Y rhaglen diweddaraf maent yn redeg yw’r rhaglen Camu Fyny ar gyfer criw Drama teledu o safon uchel a gafodd ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Creative Skillset.
Trwy Sgil Cymru (sydd wedi ei is-gontractio i Goleg Caerdydd a’r Fro) mae’r prentisiaethau Cyfryngau Creadigol a Digidol yn roi cyfleoedd ar lefel newydd-ddyfodiaid i bobl sydd am ddechrau gyrfa o fewn y diwydiannau creadigol gyda amrywiaeth o swyddi gan gynnwys Gwisgoedd i Gamera, Marchnata i Amlgyfrwng, Castio i Adeiladu set a phopeth rhyngddynt.
Dwedodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru:
Rydym yn hapus i weld bod ein Dathliad wedi sefydlu ei hun fel digwyddiad o fewn dyddiadur y diwydiant ac yn falch o weld llawer o wynebau cyfarwydd, o gyn brentisiaid i gydweithwyr proffesiynol y diwydiant. Maent yn ein atgoffa o’r pwysigrwydd o ddatgblygu llwybrau i fewn i’r diwydiant cyffrous yma.
Diolch unwaith eto i’n noddwyr Wales Screen/Sgrin Cymru, Lockett TV & Film Transport, a Choleg Caerdydd a’r Fro drwy’r Cynghrair Ansawdd Sgiliau, ac i’n gwesteion Pinewood Studio Cymru. Diolch arbennig i Creative Risk Solutions am eu cefnogaeth hael o’r wobr arbennig.
Rydym yn falch o fod yn cychwyn ar ein trydydd blwyddyn o hyfforddi o’n canolfan yn Pinewood Studio Cymru.