Paratoi at ‘Ddathliad’ Sgil Cymru 2023

Mae paratoadau wedi cychwyn yn swyddfa Sgil Cymru ar gyfer ein 5ed ‘Dathliad’ wythnos nesaf!

Mae’r ‘Dathliad’ yn siawns i gydnabod llwyddiant hyfforddiant Sgil Cymru wrth roi siawns i weithwyr proffesiynol y diwydiant i rwydweithio.
Mae Sgil Cymru yn dathlu llwyddiant ei brentisiaid creadigol yn pasio eu fframweithiau gyda’r mwyafrif ohonynt yn parhau i weithio o fewn y diwydiannau creadigol i gyflogwyr fel BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, Golley Slater a Real SFX, neu fel gweithwyr llawrydd.

Trwy Sgil Cymru (sydd wedi ei is-gontractio i Goleg Caerdydd a’r Fro) mae’r prentisiaethau Cyfryngau Creadigol a Digidol yn rhoi cyfleoedd ar lefel newydd-ddyfodiaid i bobl sydd am ddechrau gyrfa o fewn y diwydiannau creadigol gydag amrywiaeth o swyddi gan gynnwys Gwisgoedd i Gamera, Marchnata i Amlgyfrwng, Castio i Adeiladu Set a phopeth rhyngddynt.

Edrychwn ymlaen at rannu mwy am y noson wrth iddi agosáu!