Mae ugain o chwaraewyr allweddol y dyfodol o fewn sector diwydiannau creadigol Cymru yn dathlu llwyddiant eu Prentisiaethau Cyfryngau ar ôl rhaglen deuddeg mis dwys o hyfforddiant ymarferol yn y gweithle gyda chwmnïau’n cynnwys BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac Orchard Entertainment. Bydd yr holl brentisiaid naill ai’n cymryd y cyfleon cyflogaeth bellach sy’n cael eu cynnig iddyn nhw neu’n symud ymlaen i addysg bellach, o ganlyniad i’r cynllun, sy’n cael ei ddarparu gan Sgil Cymru.
Mae’r prentisiaid 16 – 24 oed, sydd wedi bod yn gweithio ar draws De Cymru, hefyd wedi dysgu am agweddau hanfodol y cyfryngau creadigol a digidol drwy hyfforddiant gan Sgil Cymru o’u canolfan yn Pinewood Studio Wales. Mae’r hyfforddiant hyn wedi cynnwys hanfodion gyrfa – o gynhyrchu fideo i ysgrifennu CV.
Mae Tom Parry, 19, o Gaerffili yn dod at ddiwedd deuddeg mis yn gweithio fel prentis camera ar y ddrama feddygol arobryn, Casualty, ac erbyn hyn mae wedi cael cynnig cytundeb deuddeg mis gyda BBC Cymru Wales. Dywedodd Tom:
“Fydden i byth wedi gallu bod yn y sefyllfa hon heb y brentisiaeth. Mae wir wedi newid fy mywyd”
Mae cynigion cyflogaeth hefyd wedi dilyn i brentisiaid o gwmnïau eraill sy’n rhan o’r cynllun, gan gynnwys Cardiff Theatrical Services a chwmni cynhyrchu ffilm a Theledu Sports Media Services.
Mae Nia Yorke, 19, o Drelái yng Nghaerdydd, wedi bod yn gweithio i ITV Cymru Wales yn yr adran Cynhyrchu Rhaglenni. Mae ar fin cychwyn ei gyrfa fel arbenigwraig cynhyrchu annibynnol ac mae ITV Cymru Wales eisoes wedi ei chyflogi i weithio ar y rhaglen fydd yn sylwebu ar refferendwm yr UE. Meddai Nia:
“Cyn i fi wneud hyn, o’n i’n gweithio shifftiau nos mewn bwyty bwyd-brys a nawr dwi’n gweithio drwy’r nos yn cyfro etholiadau! Fyddwn i byth wedi disgwyl gwneud y swydd gyffrous hon flwyddyn yn ôl!”
Er bod y rhaglen brentisiaeth hon yn dod i ben, mae gan Sgil Cymru ddeg ar hugain o swyddi newydd prentisiaid Lefel 3 a Lefel 4 yn dechrau’r haf yma. Maen nhw’n amrywio o gynhyrchu gyda BBC Cymru Wales ac ITV Cymru Wales i ddetholiad newydd sbon o swyddi marchnata mewn deuddeg cwmni gwahanol, gan gynnwys Golley Slater, Equinox a chylchgrawn Buzz. Dywedodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru:
“Mae’r flwyddyn gyntaf o’r rhaglen wedi bod yn hynod lwyddiannus ac mae’r tîm ynghyd â chyflogwyr proffil uchel yn ne Cymru yn edrych ymlaen at groesawu ein holl brentisiaid newydd mis nesaf.
“Mae gennym gyfleoedd Lefel 3 arbennig ac amrywiol iawn i ddod yn BBC Cymru Wales ac ITV Cymru Wales ar gyfer ymgeiswyr ifanc 16 – 24, yn ogystal â swyddi Lefel 4 mewn cwmnïau cyffrous yn y sector marchnata, dylunio a thechnoleg gwybodaeth, ar gyfer ymgeiswyr 18+”.
Cliciwch yma i weld y swyddi gwag presennol.
Ariannir y rhaglen Brentisiaeth hon yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru
Gwnaed y prosiect yma’n bosib drwy Brentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro; y Prif Ddarparwr Hyfforddi ar gyfer Consortiwm y Gynghrair Ansawdd Sgiliau (QSA). Mae Prentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro wedi ei ariannu’n rhannol drwy’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd i ddarparu rhaglenni dysgu yn y gweithle led-led Cymru.
Mae’r Gynghrair Ansawdd Sgiliau (QSA) yn gydweithrediad 22 darparwr Dysgu yn y Gweithle. Mae ardal ddaearyddol eang tu hwnt yn dod o dan adain Prentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro (a’u is-gytundebwyr cysylltiol) â’r QSA, gyda darpariaeth yn estyn led-led Gymru. Mae Prentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro â’r QSA yn cynnig ystod eang o raglenni a gwaith dros 25 o lwybrau gwaith.
Leave a Reply