Dechreuodd Molleasha ei gyrfa yn 2015 ar Brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3. Gweithiodd Molleasha, 20 o Gaerdydd, fel Prentis Adran Gelf i BBC Cymru Wales ym Mhorth y Rhath yng Nghaerdydd.
Cyn darganfod y brentisiaeth roedd Molleasha yn astudio Lefelau A mewn Celf, Astudiaethau Cyfryngau a Dylunio a Thechnoleg. Doedd Molleasha ddim yn hoff iawn o’r syniad o fynd i’r brifysgol ond yr oedd hi’n gwybod bod hi am astudio cwrs creadigol.
Dwedodd Molleasha:
Wnaeth dysgu yn y gweithle yn apelio i fi yn hytrach na astudio yn y Brifysgol. Roeddwn i’n gwybod fy mod am wneud rhywbeth creadigol, ond roeddwn yn teimlo’n ansicr am ba gwrs i’w wneud oherwydd mae cyrsiau creadigol yn ddrud ag yn gystadleuol. Rwy’n credu mai prentisiaeth yw’r ffordd orau o ddechrau gyrfa.
Wrth gwblhau ei phrentisiaeth wnaeth Molleasha weithio fel Prentis Adran Gelf ar Casualty am y 6 mis cyntaf a Pobol y Cwm am y 6 mis olaf.
Yn dilyn ei phrentisiaeth wnaeth Molleasha barhau i weithio gyda BBC Cymru Wales fel Cyfarwyddwraig Celf.
Dwedodd Molleasha:
Yn 19 oed gofynnwyd i fi fod yn Gyfarwyddwraig Celf gyda Pobol y Cwm. Yr wyf wedi aros gyda’r BBC yn gweithio fel Cyfarwyddwraig Celf ers Ebrill 2016 a fi ydy’r ieuengaf i’w neud yn barhaus.
Yn ogystal a hyn mae Molleasha wedi cadw’n brysyr trwy fynychu cyrsiau dramor ac yn gweithio’n llawrydd ar gynyrchiadau eraill.
Dwedodd Molleasha:
Tra o’n i i ffwrdd yn yr Haf, cwblheais i gwrs byr mewn Graffeg a Dyluniad Gweledol yn Los Angeles yn ogystal a gweithio dyddiau yn gwisgo setiau ar Emmerdale. Yn y flwyddyn newydd byddaf yn gweithio fel Cyfarwyddwraig Celf ar Casualty.
Ers cwblhau ei phrentisiaeth mae Molleasha wedi gweithio ar amryw o gynyrchiadau ac yn parhau i weithio’n galed i greu enw da i’w hun fel Cyfarwyddwraig Celf. Heb brentisiaeth fyddai hyn ddim wedi bod yn bosib.
Dwedodd Molleasha:
Helpodd y brentisiaeth greu fy ngyrfa. Mae hyd y brentisiaeth wedi gadael i fi brofi i’r cyflogwyr pa mor alluog ydw i. Mae adeiladu perthynas fel hyn yn anodd iawn i’w gyflawni trwy wneud cyfnodau byr o brofiad gwaith.
Oes gyda chi ddiddordeb mewn gwneud prentisiaeth yn y diwydiannau creadigol? Cliciwch yma i weld ein swyddi gwag.