Prentis Adran Gelf

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Mae siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon

Mae Prentisiaeth Ar Y Cyd yn gyfle ardderchog i bobl ddod i mewn i’r diwydiant, ac i gael blas ar sut mae’r sector wir yn gweithio, gan y bydd y prentis yn symyd o gwmni i gwmni, yn ddibynnol ar hyd y cynhyrchiad.  

Mae prentisiaid blaenorol a chyfredol yn gweithio ar gynyrchiadau fel:

  • Casualty 
  • Doctor Who 
  • Pobol Y Cwm 
  • His Dark Materials 
  • Peaky Blinders
  • Fleabag 

Cyflog

£12,500 PA

Disgrifiad Swydd

Mae angen i Brentis Adran Gelf fod yn unigolyn llygaid agored a brwdfrydig, sy’n ymddiddori ym myd celf, ffilm a theledu.   

Mae disgwyl i Brentisiaid Adran Gelf gwblhau amryw o dasgiau megis glanhau lloriau, gwneud tê a choffi, golchu a glanhau props ynghyd a gwisgo setiau.  

Bydd yr unigolyn yn hyderus wrth ddefnyddio cyfrifiaduron, gyda’r gallu i feddwl a chrybwyll pethau’n unigol a bod yn barod i weithio oriau hir.  

Bydd angen i chi fod yn drefnus, gyda meddwl dechnegol, sydd a’r gallu i ddilyn cyfarwyddyd. 

Mae’r gallu i yrru yn fanteisiol i’r rol hwn.

Pa fath o berson sydd angen i mi fod?

  • Cyfathrebwr da
  • Dadansoddol
  • Hunan-gychwynwr
  • Penderfynol
  • Trefnus
  • Diplomataidd
  • Un da am gymryd cyfarwyddyd
  • Trwydded gyrru glan
  • Byddai’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg o fantais yn y rôl yma.

Sgiliau Anghenrheidiol

Bydd angen i ddarpar Brentisiaid ddangos diddordeb amlwg a dyhead i wneud eu marc yn y diwydiannau creadigol a digidol yng Nghymru. 

Bydd angen iddynt hefyd ddangos agweddgadarnhaol ac ymroddgar ac awydd cryf i ddysgu gan fod yr oriau’n faith a gall y swydd gynnwys cyfnodau hir o weithio oddi cartref.

Cymwyseddau Cyffredinol

  • Byddai’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg o fantais yn y rôl yma.
  • Gwaith tîm – Gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm; yn gweithio er budd y tîm cyfan
  • Rheoli cydberthnasau – Gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
  • Cyfathrebu – Y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth
  • Dylanwadu a darbwyllo – Y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad
  • Cynllunio a threfnu – Yn gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Yn blaenoriaethu ac yn cynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
  • Meddwl yn Greadigol – Yn gallu troi syniadau/ysgogiadau creadigol yn realiti ymarferol. Yn gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol.
  • Dyfalbarhad – Yn gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Yn gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
  • Ysgogiad – Yn dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
  • Hunanddatblygiad – Yn dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
  • Hyblygrwydd – Yn addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Yn gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.

Fframwaith

Tra’n gweithio fel Prentis Adran Gelf byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.

Cliciwch yma er mwyn gwblhau ffurflen gais.

DYDDIAD CAU: 17/02/20 @ 13.00