Prentis Adran Gynhyrchu

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Mae siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon

Mae Prentisiaeth Ar Y Cyd yn gyfle ardderchog i bobl ddod i mewn i’r diwydiant, ac i gael blas ar sut mae’r sector wir yn gweithio, gan y bydd y prentis yn symyd o gwmni i gwmni, yn ddibynnol ar hyd y cynhyrchiad.  

Mae prentisiaid blaenorol a chyfredol yn gweithio ar gynhyrchiadau fel:

  • Casualty 
  • Doctor Who 
  • Pobol Y Cwm 
  • His Dark Materials 
  • Peaky Blinders
  • Fleabag 

Cyflog

£12,500 PA

Disgrifiad Swydd

Bydd Prentis Adran Gynhyrchu  yn gweithredu fel cynorthwyydd cyffredinol o fewn  yr adran gynhrchu ac adrannau eraill  ac ar gynyrchiadau  ar leoliad ar draws Cymru i helpu sicrhau fod y cynhyrchiad yn rhedeg yn esmwyth.

Mae’r rôl yn cynnig cyfleuon i ennill profiad hanfodol o’r broses o gynhyrchu cynnwys ac yn cynnig cyfleuon rhwydweithio eang sy’n werthfawr o fewn y Cyfryngau.  Bydd y prentis yn gweithio ar ystod eang o gynhyrchiadau yn ystod cyfnod y brentisiaeth.

Beth mae Prentis Adran Gynhyrchu yn gwneud?

Fel Prentis Adran  Gynhyrchu bydd rhaid i ti fod yn frwdfrydig, gweithgar, bod â sylw at fanylion a bod yn gyfathrebwr gwych.Fel rhan o’r Tîm Cynhyrchu byddi yn cynorthwyo’r Cynhyrchydd Llinell/Rheolwr Cynhyrchu/Cydlynydd Cynhyrchu/Cynorthwywyr Cyfarwyddo er mwyn sicrhau bod y cynhyrchiad yn rhedeg yn esmwyth ac effeithiol.

Bydd disgwyl i brentisiaid yn y Adran Gynhyrchu wneud popeth o wneud coffi, ateb y ffôn, archebu tocynnau teithio a stoc a darparu pob math o gefnogaeth weinyddol i’rr tîm, yn ogystal a gweithio ar y set. Fe fyddi di’n wybodus efo cyfrifiadur ac yn gallu meddwl drostat dy hun.

Bydd angen y gallu i drefnu, ond hefyd i weithio o dan gyfarwyddyd, a bod wedi dy gymell i weithio ac yn frwdfrydig.

Gall y rôl hon weithiau olygu oriau hir ac anghymdeithasol.

Pa fath o berson sydd angen i mi fod?

  • Cyfathrebwr da
  • Dadansoddol
  • Hunan-gychwynwr
  • Penderfynol
  • Trefnus
  • Diplomataidd
  • Un da am gymryd cyfarwyddyd
  • Trwydded gyrru glan
  • Byddai’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg o fantais yn y rôl yma.

 Sgiliau Anghenrheidiol:

  • Siaradwr Cymraeg
  • Sgiliau TG cryf, gan gynnwys pecynnau Microsoft, fel Word ac Excel;
  • Y gallu i dderbyn cyfarwyddyd ac i weithio fel rhan o dîm
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol dda
  • Menter ac ymwybyddiaeth
  • Y gallu i ymateb ac i weithio yn gyflym, o dan bwysau
  • Mwynhau gweithio mewn awyrgylch prysur ac o dan bwysau
  • Trwydded gyrru glan

Cymwyseddau Cyffredinol

  • Byddai’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg o fantais yn y rôl yma.
  • Gwaith tîm – Gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm; yn gweithio er budd y tîm cyfan
  • Rheoli cydberthnasau – Gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
  • Cyfathrebu – Y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth
  • Dylanwadu a darbwyllo – Y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad
  • Cynllunio a threfnu – Yn gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Yn blaenoriaethu ac yn cynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
  • Dyfalbarhad – Yn gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Yn gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
  • Ysgogiad– Yn dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
  • Hunanddatblygiad – Yn dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
  • Hyblygrwydd – Yn addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Yn gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.

Fframwaith

Tra’n gweithio fel Prentis Adran Gynhyrchu byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol

Cliciwch yma er mwyn cwlbhau ffurflen gais.

DYDDIAD CAU: 17/02/20 @ 13.00