Prentis Ar-lein a’r Adran Dysgu – BBC Cymru Wales

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                        BBC Cymru Wales
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Ar-lein a’r Adran Dysgu
Lleoliad:                      Ty Darlledu, Llandaff, Caerdydd

Am y Sefydliad

BBC_Cymru_Wales_logo.svgDarlledwr y genedl yw BBC Cymru Wales, yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth yn y Gymraeg a Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd ledled Cymru ar y teledu, y radio a thrwy ein gwefannau.

Mae Adran Ar-lein a Dysgu BBC Cymru Wales Online yn creu amrywiaeth heb ei ail o gynnwys, fel fideos, newyddion, nodweddion a gemau sy’n gysylltiedig â rhaglenni gan ddod a’n brandiau teledu mwyaf i gynulleidfa ar-lein.

Mae’r adran hefyd yn darparu datblygiad digidol ac arloesol ar gyfer rhannau eraill o BBC Cymru yn rhoi cyngor ar sut i ddatblygu cynnwys digidol a sut i ryngweithio â chynulleidfaoedd drwy lwyfannau cyfryngau digidol a chymdeithasol.

Disgrifiad Swydd

Beth mae Prentis Ar-lein a Dysgu yn ei wneud?

Rydym yn awyddus i recriwtio rhywun a fydd yn datblygu yn y 3 maes allweddol canlynol:

  • Helpu BBC Cymru i dyfu drwy arloesi newydd a gweithgarwch digidol.
  • Dysgu sut i ddosbarthu cynnwys BBC Cymru i gynulleidfa ddigidol ehangach
  • Ymchwilio a defnyddio’r datblygiadau a thueddiadau cyfryngau digidol a chymdeithasol diweddaraf

Yn ystod eich prentisiaeth byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chynhyrchwyr, ac yn cael cyfleoedd i helpu i greu graffeg a Infographics i gyhoeddi ynghyd â deunydd digidol eraill gan gynnwys testun, sain, fideo ac animeiddio. Dyma’r math o gynnwys a ddefnyddir ar draws brandiau BBC Cymru fel Doctor Who, Sherlock a’r Chwe Gwlad neu ar ein canllawiau iWonder yn ogystal â Bitesize, adnodd cefnogi astudio ar-lein rhad ac am ddim y BBC ar gyfer myfyrwyr oed ysgol.

Mae’n debyg y byddwch yn cael y cyfle i gynorthwyo yn y gwaith o nodweddion rhyngweithiol cyffrous ac arloesol megis ffilmio 360 a gwirionedd estynedig, sy’n cael ei ddatblygu ar ein darllediadau chwaraeon ar hyn o bryd.  Efallai y byddwch hefyd yn gweithio gyda’r ‘tîm Discovery Content’ – y rhain yw’r bobl sy’n edrych bob dydd i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ennyn diddordeb ein cynulleidfaoedd yn brand BBC Cymru a’n cynnwys, yn rhannol drwy adeiladu cymunedau ar Facebook, Twitter, Instagram ac YouTube.

Efallai y byddwch hefyd yn helpu i drefnu ffilmio neu cyrchu delweddau ac archif.

Ble bynnag y byddwch yn gweithio o fewn yr adran, byddwch yn cael pob cyfle i wneud cyfraniad gwirioneddol i uchelgais yr adran i ddarparu cynnwys digidol o’r radd flaenaf i’n cynulleidfaoedd.

Fel Prentis Ar-lein a Dysgu bydd angen i chi fod yn chwaraewr tîm deinamig, creadigol. Efallai eich bod eisoes yn meddu ar ddealltwriaeth o gynhyrchu cynnwys, efallai fod ganddoch eich gwefan/nau eich hun, blogiau neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, a’r llygad am fanylder. Byddai sgiliau Photoshop yn ddefnyddiol yn ogystal â dealltwriaeth a defnydd da o Gyfryngau Cymdeithasol yn ogystal â thueddiadau cyfredol. Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig, gweithgar, a bod yn gyfathrebwr da.

Mae’r rôl hon yn cynnig cipolwg ar bob agwedd o gynhyrchu  cynnwys ar-lein.

Dyma enghreifftiau o’r swyddi y gallai Prentis Online a Dysgu wneud yn y dyfodol –

  • Cynorthwy-ydd We
  • Ymchwilydd Iau
  • Ymchwilydd
  • Cydlynydd Cynhyrchu

Pa fath o berson sydd ei angen i mi fod?

  • Arloesol
  • Creadigol
  • Chwaraewr tim
  • Cyfathrebwr da
  • Dangos blaengarwch a menter
  • Penderfynol
  • Trefnus
  • Diplomyddol
  • Da ar gymryd cyfarwyddyd

Sgiliau hanfodol

  • Profiad o ymchwilio ac ysgrifennu ar gyfer Ar-lein
  • Profiad o gyhoeddi a’r cynnwys
  • Mae safon dda o Saesneg ysgrifenedig yn hanfodol.
  • Byddai profiad o brosesau cynhyrchu ar y we yn ddefnyddiol
  • Y gallu i drin delweddau llonydd gan ddefnyddio pecynnau megis Photoshop.
  • Y gallu i ymgymryd â thasgau golygu fideo syml.
  • Profiad yn y defnydd o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a dealltwriaeth o dueddiadau cyfredol

Cymwyseddau Cyffredinol

  • Gwaith tîm – Gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm; yn gweithio er budd y tîm cyfan
  • Rheoli cydberthnasau – Gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
  • Cyfathrebu – Y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth
  • Dylanwadu a darbwyllo – Y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad
  • Cynllunio a threfnu – Yn gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Yn blaenoriaethu ac yn cynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
  • Meddwl yn Greadigol – Yn gallu troi syniadau/ysgogiadau creadigol yn realiti ymarferol. Yn gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol.
  • Dyfalbarhad – Yn gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Yn gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
  • Ysgogiad – Yn dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
  • Hunanddatblygiad – Yn dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
  • Hyblygrwydd – Yn addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Yn gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.

Fframwaith

Tra’n gweithio i BBC byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.