Prentis Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol – Tinopolis

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                       Tinopolis
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol
Lleoliad:                      Llanelli

Am y Sefydliad

Mae Tinopolis yn falch o weithio gyda rhai o’r cynhyrchwyr mwyaf poblogaidd, gan greu 4,500 awr o gynnwys yn flynyddol i gynulleidfaoedd ledled y byd.

Rydym yn un o’r cyflenwyr teledu annibynnol mwyaf yn y DU, gan weithio gyda phob un o brif ddarlledwyr a chwaraewyr digidol y DU, ac mae gennym bresenoldeb sylweddol yn y farchnad cyfryngau byd-eang. Mae’r busnes Tinopolis yn yr UD yn gwneud llu o sioeau arobryn llwyddiannus ar gyfer pob un o rwydweithiau uchaf yr UD a llwyfannau SVOD.

Fe’i sefydlwyd gan Gadeirydd y grŵp Ron Jones yng Nghymru ym 1990, ac mae Tinopolis hefyd yn un o gynhyrchwyr mwyaf y DU yn y gwledydd a’r rhanbarthau, gyda chanolfannau cynhyrchu sylweddol yng Nghaerdydd, Llanelli a Glasgow.

Yn ogystal â chynhyrchu a dosbarthu teledu, mae Tinopolis hefyd yn berchen ar ddau fusnes digidol, gan ddarparu cefnogaeth rhaglen aml-lwyfan yn ogystal ag adnoddau digidol ar gyfer y sector e-ddysgu.

Disgrifiad Swydd

Mae Tinopolis yn chwilio am gydlynydd cyfryngau cymdeithasol i ymuno â’r tîm cynhyrchu, i weithio ar raglenni gan gynnwys Heno a Prynhawn Da yn ein stiwdios yn Llanelli. Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal ein strategaeth cyfryngau cymdeithasol ynghyd â’r cyfrifon perthnasol. Byddwch yn gweithio i gynyddu’n presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol tra’n chwilio am gyfleodd newydd  er mwyn cysylltu ac ehangu cynulleidfaoedd. Byddwch yn adrodd i Uwch Gynhyrchydd Heno a Prynhawn Da ond o ddydd i ddydd byddwch yn gweithio gyda’r tîm cynhyrchu cyfan i sicrhau safon uchel o gynnwys amrywiol a chyfoethog ar draws ein cyfrifon cymdeithasol.

Sgiliau hanfodol:

Dealltwriaeth ymarferol o gyfryngau cymdeithasol, rheoli gwefannau a llwyfannau digidol gan gynnwys You Tube, Facebook, Twitter, Instagram, Pininterest, Umbraco. Gallwn gynnig hyfforddiant os yn ddibrofiad mewn rheoli gwahanol gyfryngau cymdeithasol.

Nodweddion personol:

  • Person brwdfrydig sy’n gallu cydweithio’n effeithiol o fewn tîm
  • Y gallu i gyfathrebu gyda phobl ar bob lefel yn glir, cywir ac effeithiol
  • Sgiliau rhyngbersonol cryf
  • Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth
  • Person trefnus a dibynadwy
  • Y gallu i weithio’n effeithiol dan bwysau
  • Hunan gymhellol, gyda’r awydd a’r gallu i addasu a dysgu sgiliau newydd yn gyflym ac i fod yn hyblyg i ymgymeryd â thasgiau newydd neu i gynorthwyo adrannau eraill yn ôl y gofyn
  • Iaith clir a chywir yn y Gymraeg a’r Saesneg

Oriau gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau: Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Fframwaith

Tra’n gweithio i Tinopolis byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol

Cyflog

Cyflog i’w gadarnhau – yn dibynnol ar brofiad.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Isafswm Cyflog Prentis Cenedlaethol, ewch i www.gov.uk/national-minimum-wage-rates

Sut i wneud cais

Cliciwch yma i lenwi’r ffurflen gais.

Os oes gennych gwestiynau am y rhaglen brentisiaeth, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin.

Dyddiad Cau

14.00 ar y 23ain o Orffennaf, 2019