Prentis Cyfathrebu Creadigol – Golley Slater

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                      Golley Slater
Rôl Prentisiaeth:    Prentis Cyfathrebu Creadigol
Lleoliad:                    Caerdydd

Am y Sefydliad

Golley Slater yw un o grwpiau cyfathrebu annibynnol mwyaf y DU. Wedi’i sefydlu’n wreiddiol fel asiantaeth hysbysebu ym 1957, mae’r grŵp wedi esblygu’n gwmni marchnata ac ymgynghori integredig, gan gofleidio’r meysydd ymgynghori marchnata, marchnata uniongyrchol, marchnata digidol, hysbysebu recriwtio, dylunio a chysylltiadau cyhoeddus.

Disgrifiad Swydd

Crynodeb o’r Rôl

Bydd y prentis yn gweithio gyda’r tîm cyfathrebu creadigol yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd rheolwr cyfrifon. Bydd eich rôl yn cynnwys ymchwilio, creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau a sianeli cyfryngau cymdeithasol cleientiaid, helpu gydag ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus, hysbysebion a chyfryngau cymdeithasol, a monitro’r canlyniadau.

Sgiliau angenrheidiol

Rhaid i’r prentis gael y sgiliau canlynol. Bydd yn:

  • Hunanysgogwr brwd sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau a phrofiadau yn y diwydiant hysbysebu/cysylltiadau cyhoeddus/cyfryngau cymdeithasol
  • Y gallu i gyfathrebu’n gywir ac yn effeithiol
  • Hyderus a hygrededd proffesiynol
  • Siaradwr Cymraeg rhugl sy’n gyfforddus wrth gyfathrebu ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm cyfathrebu creadigol, gan gyfeirio’n rheolaidd at y rheolwr cyfrifon am gyfarwyddyd
  • Agwedd hyblyg at waith – nid swydd naw tan bump mohoni’n aml
  • Ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd am ddysgu a datblygu
  • Yn gyfarwydd â defnyddiau a nodweddion allweddol y cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter ac Instagram
  • Hyddysg mewn cyfrifiaduron ac yn hen law ar ddefnyddio Microsoft Word, PowerPoint, Excel ac Outlook

Gweithgareddau

Bydd gofyn i’r prentis wneud y gweithgareddau canlynol fel rhan o’i rôl (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny):

  • Gwasanaeth i gleientiaid – darparu cymorth wrth wasanaethu portffolio cyfrifon cleientiaid
  • Cyfryngau cymdeithasol – deall pryd a pha sianel cyfryngau cymdeithasol sy’n addas a sut y gellir ei chynnwys mewn ymgyrch. Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd effeithiol a strategol ar gyfer cwmnïau a brandiau
  • Cyswllt y cyfryngau – deall sut mae’r cyfryngau’n gweithio, ateb ymholiadau bob dydd gan y cyfryngau, cynnig straeon a/neu gynhyrchion i’r cyfryngau, meithrin cysylltiadau â’r cyfryngau (h.y. newyddiadurwyr), creu rhestri’r cyfryngau, monitro toriadau’r wasg
  • Hysbysebion/marchnata – cysylltu â’r cleient a’r timau creadigol er mwyn datblygu’r holl asedau angenrheidiol ar gyfer ymgyrchoedd hysbysebu/marchnata
  • Ysgrifennu – drafftio datganiadau i’r wasg, erthyglau neu gynlluniau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ymgyrchoedd cleientiaid
  • Gwerthuso ymgyrchoedd – helpu i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd ymgyrchoedd a mesur eu heffaith
  • Ymchwil a dadansoddi data – cynnal gwaith ymchwil ar gyfer y tîm a/neu’r cleientiaid ac adrodd yn ôl am y manylion allweddol
  • Digwyddiadau – helpu i gynllunio, trefnu a chydlynu digwyddiadau, gan fodloni amcanion y briff
  • Cydberthynas broffesiynol – meithrin cysylltiadau proffesiynol â chydweithwyr a chleientiaid, trwy wrando a chyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac ar bapur.

Tasgau gweinyddol

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus wneud y tasgau gweinyddol canlynol hefyd:

  • Rheoli amser – cynllunio, trefnu a blaenoriaethu llwyth gwaith er mwyn sicrhau bod amcanion ac amserlenni’r gwaith a’r brentisiaeth yn cael eu bodloni. Sicrhau bod goruchwylwyr yn ymwybodol o’r hyn sydd ar waith a’u briffio pan fydd unrhyw broblemau’n codi
  • Rheoli’r dyddiadur – sicrhau bod dyddiaduron e-bost/ar-lein wedi’u diweddaru
  • Cyfarfodydd – trefnu cyfarfodydd mewnol ac allanol, sicrhau bod ystafelloedd yn addas a diwallu anghenion mynychwyr

Safonau ansawdd

  • Dilyn gweithdrefnau’r cwmni a’r darparwr hyfforddiant drwy’r adeg
  • Cynhyrchu gwaith manwl-gywir o’r radd flaenaf
  • Cynnal delwedd gadarnhaol y cwmni ac yn bersonol
  • Efallai y bydd disgwyl i chi weithio oriau hyblyg yn unol ag anghenion y cleient

Proffil person

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur
  • Hyddysg mewn pecynnau Microsoft Office ac yn brofiadol yn y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol
  • Creadigol
  • Rhywun trefnus sy’n gallu rheoli ei amser ei hun
  • Hyblyg a pharod i ddysgu
  • Rhoi sylw i fanylion
  • Llawn cymhelliant ac ymroddiad
  • Rhywun sy’n gweithio o’i ben a’i bastwn ei hun, yn llawn egni a brwdfrydedd ac yn manteisio ar bob cyfle

Cefndir addysgol

  • Mae o leiaf 3 cymhwyster Safon Uwch neu gyfwerth yn ddymunol ond ddim yn hanfodol
  • TGAU A*- C Saesneg neu gymhwyster cyfwerth
  • TGAU A*- C Mathemateg neu gymhwyster cyfwerth

Fframwaith

Tran gweithio i Golley Slater byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 4 mewn Hysbysebu a Chyfathrebu Marchnata trwy Sgil Cymru, darparwr hyfforddiant yng Nghaerdydd.