Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.
Cwmni: Amplified Business Content
Rôl Prentisiaeth: Prentis Cynorthwy-ydd Prosiect a Digwyddiadau X 2
Lleoliad: Caerdydd
Am y Sefydliad
Wedi ein lleoli yn Llundain a Chaerdydd, rydym yn creu, curadu a rhannu cynnwys. Rydym yn gwneud hyn drwy ddigwyddiadau, cyfryngau cymdeithasol, dulliau digidol a phrint. Rydym yn cynhyrchu ein digwyddiadau ein hunain yn ogystal â digwyddiadau ar gyfer cleientiaid. Rydym yn cyhoeddi drwy gyfrwng print ac ar-lein. Mae ein digwyddiadau’n cynnwys: The Great British Entrepreneur Awards, The Entrepreneur Wales Awards, Cardiff Business Week & Integrated LIVE.
Disgrifiad Swydd
Os ydych chi’n chwilio am brofiad diflas, undonog heb ddim cyfleon i ddatblygu – nid dyma’r swydd i chi.
‘Rydym yn chwilio am 2 brentis digwyddiadau uchelgeisiol fydd yn dod yn aelodau gwerthfawr o’n hasiantaeth marchnata a digwyddiadau cyffrous, wedi ei leoli yng Nghaerdydd.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus nid yn unig yn cael cyfleon i ddysgu sgiliau newydd a gweithio fel rhan o dîm deinamig ond byddant hefyd yn ennill cyflog wrth ddysgu, drwy weithio ar nifer o brosiectau cyffrous proffeil-uchel gan gynnwys seremonïau gwobrwyo a chynadleddau.
Dylai’r ymgeisydd perffaith:
- Feddu ar sgiliau cyfathrebu gwych
- Gael agwedd bositif tuag at y gwaith
- Fod yn ddyfeisgar
- Feddu ar dechneg ateb ffôn proffesiynol
- Beidio â bod ofn gofyn cwestiynau
- Feddu ar hunan-gymhelliant
- Allu blaenoriaethu gwaith
- Fod yn dda gyda manylion
Bydd gofyn i chi:
- Gynorthwyo gyda gweithredu digwyddiadau proffeil-uchel
- Monitro cyfryngau cymdeithasol
- Cadw i fyny â newyddion a datblygiadau sy’n berthnasol i’n portffolio
- Defnyddio sianelau ar-lein i ddod o hyd i siaradwyr a phartneriaid posib.
- Cynorthwyo’r tîm digwyddiadau i drefnu logisteg cyn ac yn ystod tymor digwyddiadau prysur fis Tachwedd
- Cynorthwyo gyda sesiynau ffilmio.
- Dysgu a gweithredu sgiliau golygu fideo elfennol
- Paratoi cyflwyniadau
Pwt am y tîm:
Mae aelodau ein tîm yn uchelgeisiol a deinamig ac yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd lle mae eu barn a’u syniadau’n wirioneddol bwysig a lle maent yn cael eu hannog i ddatblygu eu gyrfa.
Rydym yn gweithio’n galed ond yn mwynhau ein gwaith ac yn cael hwyl yn y broses.
Yn ogystal, mae ein prif swyddfa wedi ei lleoli gyferbyn â Chastell Caerdydd yng nghanol y ddinas ac mae golygfa o Stadiwm y Principality o’n gardd-do unigryw!
Fframwaith
Tra’n gweithio i ABC byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.