Cwmni: Business News Wales
Rôl Prentisiaeth: Prentis Cynorthwy-ydd Marchnata Digidol
Lleoliad: Caerdydd
Am y Sefydliad
Busnes cyhoeddi annibynnol Cymraeg yw Business News Wales. Mae’r tîm tu ôl i Busnes News Wales wedi dosbarthu dros 40,000 o straeon newyddion Busnes-i-fusnes gorau’r DU ers 2012, i gyd o fewn y marchnadoedd Technoleg, Adnoddau Dynol a Recriwtio. Mae gennym brofiad helaeth o dyfu cyrhaeddiad marchnad ar gyfer dros 150 o wahanol fusnesau yn y DU ac yn Rhyngwladol dros y tair blynedd ddiwetha’.
Disgrifiad Swydd
Amlinelliad o’r swydd
Rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd Marchnata Digidol brwdfrydig i weithredu amrywiaeth o dasgau datblygu cynnwys o fewn y marchnadoedd Busnes i Fusnes, Technoleg a Cyfalaf Dynol Cymreig. Rydym yn chwilio am aelod tîm brwdfrydig sydd ag awydd cryf i lwyddo. Gan fod ein busnes cyfryngau yn tyfu’n gyflym, mae cyfle gwirioneddol i chi ddatblygu eich rôl.
Bydd y swydd yn cynnwys gweithio gyda dwy sianel newyddion ar-lein gan gynnwys: www.businessnewswales.com a www.recruitmentbuzz.co.uk
Dyletswyddau Penodol:
Rheoli Cynnwys
- Ymchwilio a dod o hyd i erthyglau newydd ar gyfer Business News Wales Recruitment Buzz
- Sicrhau bod yr holl borthiannau RSS yn cael eu diweddaru’n gyson
- Y gallu i brawf ddarllen copi, gwirio sillafu a gramadeg
- Dod o hyd i syniadau copi gydag aelodau eraill o’r tîm
- Bod yn ymwybodol o newyddion a thueddiadau diweddara’r diwydiant
- Diweddaru holl gynnwys ôl-blatfform Business News Wales a Recruitment Buzz
Rheoli Perthynas Cleientiaid/Cysylltiadau
- Dealltwriaeth gadarn o gynnyrch, gwasanaethau a chynulleidfa darged y cleientiaid ynghyd â gweithgareddau eu cystadleuwyr
- Sefydlu a chynnal perthynas dda gydag asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus yng Nghymru a gweddill y DU
- Rheoli detholiad bychan o gyfrifon cleientiaid
Cyfryngau Cymdeithasol
- Diweddaru ac ymwneud yn ddyddiol â’r cyfryngau cymdeithasol a meddu ar ddealltwriaeth dda o’r platfformau a’r llwyfannau diweddara’/mwya’ effeithiol
- Monitro gweithgareddau, ateb ymholiadau a rhyngweithio gyda rhwydweithiau
Marchnata
- Cefnogi’r tîm marchnata gydag amrywiaeth o dasgau cynnwys a dosbarthu marchnata
- Cynnal a chadw gwefan ac optimeiddio’r peiriant chwilio – diweddaru a gwella cynnwys yn ddyddiol
- Helpu i neud yn siŵr fod strwythur y safle we yn effeithiol o ran y peiriant chwilio, cynnal y geiriau ag ymadroddion targed allweddol (gyda chynllun cynnwys ategol i wella safle’r wefan) and sicrhau’r defnydd o ôl-linciau
- Helpu i gynyddu’r traffig i’r wefan drwy ymgyrchoedd sy’n gysylltiedig â’r we
Sgiliau Hanfodol
- Gallu i weithio ar nifer o ymgyrchoedd ar yr un pryd, weithiau o dan bwysau ac yn aml i linell derfyn dyn
- Sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol gyda’r gallu i amldasgio, gweithio’n gyflym a blaenoriaethu llwyth gwaith yn effeithiol
- Cywirdeb a sylw i fanylion
- Sgiliau gweinyddol gwych gan gynnwys profiad gyda Word
- Agwedd hyblyg at waith
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hunan
- Tact a disgresiwn wrth ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol
- Agwedd bositif ‘gall-wneud’
- Y gallu i weithio o fewn tîm
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ardderchog
Fframwaith
Tra’n gweithio i Business News Wales byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.