Prentis Lleoliadau – BBC Cymru Wales

Cwmni:                        BBC Cymru Wales
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Lleoliadau
Lleoliad:                      Porth y Rhath, Bae Caerdydd

Am y Sefydliad

BBC_Cymru_Wales_logo.svgDarlledwr y genedl yw BBC Cymru Wales, yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth yn y Gymraeg a Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd ledled Cymru ar y teledu, y radio a thrwy ein gwefannau.

Porth y Rhath yw canolfan ragoriaeth gwbl fodern y BBC ar gyfer Drama, lleoliad sy’n fwrlwm o ynni a doniau newydd. Pan symudodd y cynyrchiadau cyntaf i Borth y Rhath ym Medi 2011, fe wnaethant wireddu un o addewidion y BBC i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer Drama yng Nghaerdydd.

Mae’r cyfleuster 170,000 troedfedd sgwâr hwn a leolir ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd, sy’n cynnwys naw stiwdio ac sydd yr un hyd â thri chae pêl-droed, yn awr yn gartref parhaol, at y pwrpas i bedair o brif ddramâu’r BBC – Casualty, Pobol y Cwm, Doctor Who – yn ogystal ag i gynyrchiadau newydd i’r dyfodol.

Disgrifiad Swydd

Beth mae Cynorthwy-ydd Lleoliad yn ei wneud?

Mae Cynorthwy-ydd Lleoliad yn darparu cefnogaeth i’r Rheolwr Lleoliad a Rheolwr yr Uned trwy helpu i baratoi Gorchmynion Symud (cyfarwyddiadau i leoliadau sy’n cael eu dosbarthu bob dydd gyda taflenni galwadau). Mae’r rhain yn galluogi aelodau criw i deithio yn gyflym, yn uniongyrchol ac yn ddiogel o’r swyddfa gynhyrchu at yr uned ac o’r uned i bob lleoliad.

Mae Cynorthwy-ydd Lleoliad yn  gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Lleoliad, Rheolwr yr Uned, Cyfarwyddwr, Cynhyrchydd a’r Awduron er mwyn sicrhau bod y gweledigaethau o’r sgriptiau yn cael eu bodloni.

Mae’r Cynorthyw-ydd Lleoliad hefyd yn cynorthwyo gyda sgowtio am leoliadau ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio lleoliadau, gwneud apwyntiadau i ymweld, cwrdd â’r perchnogion, trigolion neu ofalwyr, a thynnu lluniau. Bydd y Cynorthwy-ydd Lleoliad wedyn yn cyflwyno’r lluniau yma i’r Rheolwr Lleoliad, Cyfarwyddwr a Dylunydd Cynhyrchu.

Byddant hefyd yn mynychu recces technegol, lle mae pob lleoliad yn cael ymweliad gan y Tîm Cynhyrchu cyn y ffilmio er mwyn sicrhau bod anghenion pob adran yn cael eu diwallu.

Yn ystod y dyddiau saethu, mae’r tîm Lleoliad yn cyrraedd yn gynnar i gyfarwyddo’r cerbydau ac adrannau i’r ardaloedd ffilmio, a sicrhau nad oes unrhyw beth yn y lleoliad yn cael ei ddifrodi.

Ar ddiwedd pob dydd saethu, maent yn helpu Rheolwr Lleoliadau Cynorthwyol a Rheolwr Uned i glirio unrhyw sbwriel, ac yn gyffredinol dacluso. Bydd Cynorthwywyr Lleoliad mwy profiadol hefyd yn helpu gyda pharcio diogel o’r holl gerbydau cynhyrchu.

Dyma enghreifftiau o’r swyddi y gallai Prentis Lleoliad wneud yn y dyfodol –

  • Rheolwr yr Uned
  • Sgowtiwr Lleoliadau
  • Rheolwr Lleoliad

Pa fath o berson sydd angen i mi fod?

  • Cyfathrebwr da
  • Trefnys
  • Diplomyddol
  • Da ar gymryd cyfarwyddyd

Sgiliau allweddol yn cynnwys:

  • Brwdfrydedd amlwg i ddysgu a chaffael sgiliau newydd
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i ddelio’n ddoeth ac yn ddiplomyddol gydag artistiaid, criw a’r cyhoedd
  • Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth agos
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm, dan gyfarwyddyd yn ôl yr angen
  • Y gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd dan bwysau
  • Y gallu i weithio’n gyflym ac yn gywir dan bwysau i derfynau amser sy’n gallu newid yn gyson
  • Tystiolaeth o sgiliau rhyngbersonol da
  • Dull o waith sy’n dangos hunan-gymhelliant a dibynadwyedd
  • Ymwybyddiaeth o natur amrywiol ein cynulleidfaoedd ac ymrwymiad i amrywiaeth yn y gweithle
  • Llythrennog Cyfrifiadurol

Cymwyseddau Cyffredinol

  • Gwaith tîm – Gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm; yn gweithio er budd y tîm cyfan
  • Rheoli cydberthnasau – Gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
  • Cyfathrebu – Y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth
  • Dylanwadu a darbwyllo – Y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad
  • Cynllunio a threfnu – Yn gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Yn blaenoriaethu ac yn cynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
  • Meddwl yn Greadigol – Yn gallu troi syniadau/ysgogiadau creadigol yn realiti ymarferol. Yn gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol.
  • Dyfalbarhad – Yn gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Yn gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
  • Ysgogiad – Yn dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
  • Hunanddatblygiad – Yn dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
  • Hyblygrwydd – Yn addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Yn gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.

Fframwaith

Tra’n gweithio i BBC byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.