Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.
Cwmni: BBC Cymru Wales
Rôl Prentisiaeth: Prentis Sgript
Lleoliad: Porth y Rhath, Bae Caerdydd
Am y Sefydliad
Darlledwr y genedl yw BBC Cymru Wales, yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth yn y Gymraeg a Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd ledled Cymru ar y teledu, y radio a thrwy ein gwefannau.
Porth y Rhath yw canolfan ragoriaeth gwbl fodern y BBC ar gyfer Drama, lleoliad sy’n fwrlwm o ynni a doniau newydd. Pan symudodd y cynyrchiadau cyntaf i Borth y Rhath ym Medi 2011, fe wnaethant wireddu un o addewidion y BBC i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer Drama yng Nghaerdydd.
Mae’r cyfleuster 170,000 troedfedd sgwâr hwn a leolir ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd, sy’n cynnwys naw stiwdio ac sydd yr un hyd â thri chae pêl-droed, yn awr yn gartref parhaol, at y pwrpas i bedair o brif ddramâu’r BBC – Casualty, Pobol y Cwm, Doctor Who – yn ogystal ag i gynyrchiadau newydd i’r dyfodol.
Disgrifiad Swydd
Fel Prentis Sgript bydd rhaid i ti fod yn frwdfrydig, gweithgar, trefnus a bod yn un sy’n teimlo’r frwd dros ysgrifennu creadigol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd disgwyl i brentisiaid yn yr adran yma wneud popeth o wneud coffi, rheoli dyddiadur, ateb y ffôn a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddarllen sgriptiau, ysgrifennu adroddiadau ac ymchwilio syniadau.
Fe fyddi di’n barod i weithio oriau hir, yn wybodus efo cyfrifiadur ac yn gallu meddwl drostat dy hun. Bydd angen y gallu i drefnu, ond hefyd i weithio o dan gyfarwyddyd, a bod gen ti lefel uchel o lythrennedd.
Drwy hyn fe fyddi’n dod i ddeall sut mae cynhyrchiad yn gweithio, â’r broses greadigol o sut mae straeon yn cael eu creu a’u mireinio ar gyfer Drama Deledu yn arbennig.
Gall y swydd hon eich gosod ar y llwybr gyrfa golygyddol sy’n cynnwys cynorthwy-ydd stori, golygydd sgriptiau cynorthwyol, ymchwilydd, golygydd sgriptiau a chynhyrchydd.
Esiamplau o swyddi y gallai Prentis Sgript eu gwneud yn y dyfodol –
- Ysgrifenydd/es Sgript
- Ymchwilydd drama
- Golygydd Sgript
- Cynorthwy-ydd Stori
- Cynhyrchydd Sgript
- Cynhyrchydd Stori
- Awdur sgript
- Cynorthwy-ydd Datblygu
Pa fath o berson sydd angen i mi fod?
- Y gallu creadigol i gynhyrchu syniadau stori
- Hunan-gychwynnwr
- Sgiliau ysgrifennu rhagorol
- Creadigol
- Trefnus
Sgiliau Anghenrheidiol:
- Y gallu i dderbyn cyfarwyddyd ac i weithio fel rhan o dîm
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol dda
- Menter ac ymwybyddiaeth
- Y gallu i ymateb ac i weithio yn gyflym, o dan bwysau
- Lefel uchel o lythrennedd ac angerdd dros ysgrifennu creadigol
Yn dilyn yn syth ymlaen o’r flwyddyn prentisiaeth, os yw’r cymhwyster yn cael ei sicrhau, y lleoliad yn llwyddiannus, ac mae gofyniad o’r Cynhyrchiadau, gall blwyddyn o ail hyfforddeiaeth gael ei gynnig.
Cymwyseddau Cyffredinol
- Gwaith tîm – Gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm; yn gweithio er budd y tîm cyfan
- Rheoli cydberthnasau – Gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
- Cyfathrebu – Y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth
- Dylanwadu a darbwyllo – Y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad
- Cynllunio a threfnu – Yn gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Yn blaenoriaethu ac yn cynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
- Meddwl yn Greadigol – Yn gallu troi syniadau/ysgogiadau creadigol yn realiti ymarferol. Yn gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol.
- Dyfalbarhad – Yn gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Yn gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
- Ysgogiad – Yn dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
- Hunanddatblygiad – Yn dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
- Hyblygrwydd – Yn addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Yn gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.
Fframwaith
Tra’n gweithio i BBC byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.