Prentis Swyddfa Gynhyrchu – Real SFX

Cwmni:                       Real SFX
Rôl Prentisiaeth:     Prentis Swyddfa Gynhyrchu
Lleoliad:                     Penarth Road, Caerdydd

Am y Sefydliad

Mae Real SFX yn gwmni effeithiau arbennig ymarferol sy’n arbenigo mewn effeithiau atmosfferig, tân, ffrwydron, rigiau mecanyddol, modelau a phropiau meddal. Mae’r tîm o oruchwylwyr a thechnegwyr medrus yn creu effeithiau corfforol pwrpasol ar gyfer y diwydiant Teledu, Ffilm a Digwyddiadau. Gyda’r gweithdy llawn swyddogaethol yng Nghaerdydd, mae’r tîm yn teithio ledled y DU yn gweithio ar gynyrchiadau teledu megis Peaky Blinders, Luther a Sherlock yn ogystal â ffilmiau nodwedd megis Free Fire, Show Dogs, Final Score a Hunter Killer.

Disgrifiad Swydd

Mae Real SFX yn recriwtio am Brentis Swyddfa Cynhyrchu i ymuno â’u tîm yng Nghaerdydd. Plis nodwch nad yw honyn swydd sy’n cynnwys prostheteg neu golur ac nid yw Real SFX yn gwmni CGI ond yn gwmni effeithiau arbennig sy’n creu amrywiaeth o effeithiau arbennig corfforol. Fel Prentis Swyddfa Cynhyrchu Real SFX, bydd y gwaith yn amrywiol iawn ac fe fydd hon yn rôl weinyddol lefel mynediad da i fewn i’r diwydiannau cyfryngau.

Byddwch yn gweithio oleia 30 awr yr wythnos ond gallai gynyddu, yn dibynnu ar yr ymrwymiad i gynhyrchiadau.

NODER: Nid yw’r swydd hon yn ymwneud a phrostheteg, colur na gwneud propiau.

Dyletswyddau nodweddiadol y byddwch yn ymgymryd â nhw:

  • Ateb y ffôn
  • Creu a diweddaru gwaith papur cynhyrchu
  • Bwydo data
  • Trefnu criw, lletya chludiant
  • Llungopïo a ffeilio
  • Gweinyddu swyddfa cyffredinol
  • Mynychu digwyddiadau
  • Rheoli Cyfryngau cymdeithasol a rheoli gwefan
  • Dosbarthu gwaith papur cynhyrchu
  • Cydlynu rhwngmwy nag un cynhyrchiad ar yr un pryd

Sgiliau Hanfodol:

  • Cyfathrebu ar lafar ac ysgrienedig ardderchog
  • Trefnu a gweinyddu ardderchog
  • Y gallu i weithio yn unigol ac fel rhan o dîm
  • Y gallu i weithio dan bwysau
  • Y gallu i feddwl yn chwim
  • Y gallu i amlorchwylio
  • Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog
  • Gwybodaeth sylfaenol o gyfrifiaduron Microsoft a Mac
  • Trwydded Yrru llawn DU
  • Agwedd gadarnhaol

Sgiliau dymunol ond nid yn hanfodol:

▪       Siarad y Gymraeg yn rhugl

Fframwaith

Tran gweithio i Real SFX byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol trwy Sgil Cymru, darparwr hyfforddiant yng Nghaerdydd.

Cyflog

Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw £5 yr awr ond mae’n bosib ei drafod yn ddibynnol ar brofiad ac arbenigedd.

Am fwy o wybodaeth am Isafswm Cyflog Cenedlaethol i Brentis ewch i www.gov.uk/national-minimum-wage-rates

Sut i Ymgeisio

Cliciwch yma i gwblhau y ffurflen gais.

Os oes ganddoch unrhyw gwestiynnau am y prentisiaethau, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin.

Dyddiad Cau

1200 Dydd Llun, 23ain o Gorffennaf 2018

Cliciwch yma am fersiwn PDF o’r swydd ddisgrifiad.