Prentis Swyddog Cefnogi Tîm – Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                          Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Rôl Prentisiaeth:        Prentis Swyddog Cefnogi Tîm
Lleoliad:                        Caerdydd

Am y Sefydliad

Mae newid diwylliant y sector cyhoeddus, gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru a gwarchod buddiannau Cenedlaethau’r Dyfodol, i gyd yn dod o fewn cylch gwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Gwaith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’i thîm yw helpu i wneud i hyn ddigwydd.

Disgrifiad Swydd

Gan adrodd i Reolwr y Swyddfa, bydd y Swyddog Cefnogi Tîm yn rhoi cefnogaeth gyffredinol, ddibynadwy ac effeithlon i Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, i alluogi pob swyddogaeth i redeg yn effeithiol ac effeithlon ar bob adeg.

Ai chi yw hon/hwn?

Fel y Prentis Cefnogi Tîm yn ein swyddfa byddwch yn rhywun ag ymagwedd hynaws a chynorthwyol fel pwynt cyswllt cyntaf y sefydliad ar y ffôn ac yn y swyddfa, a’r person y bydd cydweithwyr yn y swyddfa yn mynd ati/ato am gefnogaeth.

Byddwch yn mwynhau bod yn drefnus yn eich gwaith wrth drefnu cyfarfodydd, archebu mannau cyfarfod, hysbysu ymwelwyr, trefnu arlwyo, coladu a dosbarthu papurau, mynychu cyfarfodydd a chymryd nodiadau.

Byddwch yn medru cyfathrebu gydag aelodau o’r tîm ac aelodau o’r cyhoedd i safon uchel drwy gyfrwng y Gymraeg, ar y ffôn, wyneb yn wyneb, ac mewn negeseuon e-bost byr neu drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Byddwch yn deall pa mor bwysig yw cael cysylltiad gwych rhyngom ag eraill yn y Sector Cyhoeddus, a byddwch yn rhywun sy’n greadigol wrth natur, yn dda gyda thechnoleg ac yn hoffi rhagori wrth ymgysylltu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Byddwch yn rhywun sy’n rhannu ein gwerthoedd mewn perthynas â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru a dysgu gyda ni wrth i ni weithredu yn ogystal â thrafod.

Rydym yn sefydliad sy’n hoffi meddwl yn wahanol, cwestiynu a rhoi cynnig ar ddulliau newydd o wneud pethau, gan annog creadigrwydd a syniadau newydd. Felly, rydym yn edrych am rywun sy’n mwynhau helpu eraill gyda’u gwaith, rhywun sy’n awyddus i wella’u perfformiad a’u gwybodaeth yn gyson, ac sy’n medru gweithio’n hyblyg mewn ymateb i anghenion pobl eraill.

Rydym yn dîm bychan â neges fawr i’w rhannu ag eraill, felly mae yna gyfleoedd i gymryd rhan ym mhob agwedd o’n gwaith i unrhyw un sy’n dangos diddordeb gwirioneddol.

Eich diben

Eich prif ddiben yw cefnogi’r holl dîm staff gyda’u gwaith. Gallai hyn amrywio o dasgau gweinyddol megis trefnu cyfarfodydd, llungopïo a ffeilio, cefnogi digwyddiadau, a rhoi cymorth cyffredinol gyda ThG, trefniadaeth a dyletswyddau cyfarch, hybu gwaith y swyddfa a chymryd rhan mewn gohebu ar-lein ac oddi ar lein.

Eich cyfrifoldebau:

  • Cynorthwyo’n rheolwr Swyddfa mewn perthynas â threfnu cyfarfodydd, hysbysu ymwelwyr, trefnu derbyniadau, coladu a dosbarthu papurau.
  • Trefnu mannau cyfarfod i helpu i reoli logisteg gweithdai a digwyddiadau yn cynnwys cyfathrebu drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol.
  • Cefnogi hyrwyddo a chyfleu gwaith y swyddfa.
  • Cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth croesawu cyflawn i ymwelwyr i’r
  • swyddfa gan gynnig lluniaeth.
  • Derbyn galwadau ffôn, cymryd negeseuon ac ail-gyfeirio lle mae hyn yn briodol.
  • Rheoli derbyn a dosbarthu’r holl ohebiaeth sy’n dod i mewn, a phrosesu’r holl bost
  • sy’n mynd allan.
  • Cyfrannu at gyfarfodydd tîm .
  • Cefnogi cydweithwyr gydag archebion offer swyddfa a chadw cofnodion.
  • Cefnogi hurio ceir/trefnu lle mewn gwestai a chadw cofnodion.
  • Cefnogi prosiectau unigol a gweithgorau yn ôl y gofyn.
  • Cynnal a chadw system ffeilio electronig strwythuredig.
  • Cynnal ymarferion casglu gwybodaeth.
  • Drafftio atebion i ymholiadau sylfaenol.
  • Unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl y gofyn.

Eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad

  • Os gwelwch yn dda noder y buasem yn eich cynghori i gynnwys mewnwelediad personol o’ch profiadau bywyd ynghyd â’ch profiad gwaith cyflogedig a digyflog pan fyddwch yn dangos eich addasrwydd ar gyfer ein swyddi.
  • Byddwch yn rhywun â sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da, sydd hefyd yn deall ac yn mwynhau cymryd rhan mewn cyfathrebu cyfryngau digidol.
  • Bydd gennych agwedd bositif tuag at gefnogi eraill, byddwch yn dda am siarad â phobl a chymryd rhan mewn gweithgareddau tîm.
  • Byddwch yn medru dangos dealltwriaeth o werthoedd ein swyddfa a’n datblygu cynaliadwy. Byddwch yn medru dangos sgiliau TGCh a sgiliau trefnu da.
  • Byddwch yn medru cyfathrebu ar lafar gydag aelodau’r tîm ac aelodau’r cyhoedd i safon uchel iawn drwy gyfrwng y Gymraeg, ar y ffôn, wyneb yn wyneb a drwy ebostiadau byr neu drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Rhoddir cymorth gyda chyfathrebu ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r brentisiaeth yn gymhwyster lefel 4 sy’n gyfwerth â blwyddyn 1af Prifysgol. Oherwydd hyn, yn anffodus nid yw’n bosib i’r rheiny sydd eisoes wedi ennill gradd Prifysgol neu sydd wrthi’n astudio ar gyfer Gradd Prifysgol ar hyn o bryd i geisio am y Brentisiaeth.

Fframwaith

Tra’n gweithio i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.