Prentis Ysgogi Cleientiaid – Golley Slater

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                      Golley Slater
Rôl Prentisiaeth:    Prentis Ysgogi Cleientiaid
Lleoliad:                    Caerdydd

Am y Sefydliad 

Mae Golley Slater wedi bod yn creu syniadau cofiadwy ers amser hir. Gwnaethom agor ein drysau gynta’ ym 1957. Yn fuan wedi hynny, gwnaethom ddarlledu’r hysbyseb teledu cyntaf yn fyw ar yr awyr.  Ond dyna ddiwedd ar y wers hanes. Mae ein holl waith a’n harbenigedd strategol yn canolbwyntio ar fory, dim ddoe. Rydym yn creu deunydd cyfathrebu effeithiol tu hwnt yn seiliedig ar yr hyn mae pobol wir eisiau – nid yr hyn maen nhw’n dweud eu bod eisiau

Mae ein cynlluniau Cyfryngau Busnes llwyddiannus yn prynu a darparu ystod o ymgyrchoedd ar gyfer cleientiaid ledled y Du, o’r byd teledu i ddigidol a PPC.

Mae gennym rwydwaith prynu cyfryngau sy’n ein galluogi i brynu am bris da yn ogystal ag elwa o fargeinion gwych sydd yn aml ddim o fewn cyrraedd busnesau eraill. Mae ein hadran gyfryngau hefyd yn rheoli ein dulliau gwerthuso a phriodoliad i sicrhau bod pob punt o’n gwariant yn gweithio’n galed ar ran ein cleientiaid.

Mae gan y busnes graidd o gleientiaid ffyddlon ac arbenigrwydd ar draws y sectorau. Rydym wedi cael ein penodi fel asiantaeth i Lywodraeth Cymru, Croeso Cymru a nifer o sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus yn ogystal â nifer o frandiau cyfarwydd proffeil-uchel a sefydliadau addysgol o fri ar draws y DU.

Nid yw’r diffiniad rôl canlynol yn gynhwysfawr a bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â thasgau sy’n rhesymol o fewn sgôp a graddfa’r swydd.

Mae swydd ddisgrifiadau’n cael eu hadolygu’n gyson i sicrhau eu bod yn gynrychiolaeth gywir o’r swydd.

Disgrifiad Swydd

Bydd y Prentis Ysgogi Cleientiaid yn cael cipolwg gwerthfawr ar y gwaith o reoli Asiantaeth o ddydd i ddydd. Bydd y Prentis yn rhan annatod o’r Tîm Ysgogi Cleientiaid newydd, yn gweithio gyda Phennaeth y Tîm Ysgogi i helpu’r Asiantaeth gyda llif esmwyth gwaith rhwng y tîm rheoli cyfrifon a’r adran greadigol, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei gynhyrchu ar amser ac o fewn y gyllideb gan ddefnyddio adnoddau’n effeithiol. Bydd gan y sawl a benodir ddiddordeb brwd yn y diwydiant, a bydd yn drefnus iawn ac yn barod i ddysgu’n gyflym.

Ar gyfer hanner cyntaf y brentisiaeth, bydd cyfrifoldebau’n canolbwyntio ar Reoli Traffig, gyda’r nod o symud ymlaen i ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau Rheoli Prosiectau yn ail hanner y cynllun.

Cyfrifoldebau

Rheoli Traffig (prif gyfrifoldebau)

  • Agor pob rhif swydd newydd
  • Trefnu gwaith wythnosol yr adran greadigol – sy’n dod i mewn ac yn mynd allan
  • Dyrannu amserlenni y cytunwyd arnynt ar gyfer cwblhau tasgau
  • Trefnu sesiynau briffio a chyfarfodydd adolygu creadigol rhwng CAT, CST a’r adran greadigol
  • Sicrhau bod gwaith yn cael ei gymeradwyo gan yr adran greadigol cyn iddo gael ei anfon ymlaen at ein partneriaid yn y cyfryngau
  • Gweithio ochr yn ochr â Phennaeth y Tîm Ysgogi i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cwblhau o fewn amserlenni priodol
  • Gweithio ochr yn ochr â Phennaeth y Tîm Ysgogi i reoli’r defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau llawrydd
  • Gweithio ochr yn ochr â Phennaeth y Tîm Ysgogi i sicrhau bod yr holl daflenni amser CAT a chreadigol yn cael eu cwblhau yn wythnosol

Rheoli Prosiectau (cyfrifoldebau eilaidd)

  • Gwneud amcangyfrifon ar y cyd â’r Tîm Gwasanaethau Cleientiaid
  • Trefnu amser stiwdio a chreadigol trwy’r Rheolwr Traffig
  • Cysylltu â chleientiaid wrth reoli gwaith (bydd unrhyw drafodaethau o natur fasnachol yn cael eu trafod gan CST)
  • Cysylltu â CST wrth reoli gwaith, diweddariadau rheolaidd
  • Cysylltu â thîm y cyfryngau i reoli gwaith yn erbyn y fanyleb a’r dyddiad terfyn
  • Cysylltu â chyflenwyr allanol i reoli gwaith yn erbyn y fanyleb a’r dyddiad terfyn
  • Monitro amser mewnol a chostau allanol ar bob darn o waith unigol yn erbyn amcangyfrif a gymeradwywyd gan y cleient
  • Sicrhau bod yr holl fanylion ariannol yn gywir yn erbyn adroddiad manylion y gwaith yn barod i CST anfonebu’r cleient

Proffil person

  • Y gallu i fentro a gwneud penderfyniadau gyda chymorth y rheolwr a’r tîm
  • Sgiliau trefnu cryf
  • Sgiliau cyfrifiadurol cryf a sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Agwedd gadarnhaol a pharodrwydd i ddysgu, diddordeb brwd yn y diwydiant
  • Y gallu i roi sylw craff i fanylion a gweithio’n dda o fewn yr amserlenni.

Fframwaith

Tra’n gweithio i Golley Slater, byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.