Swyddi Prentis Newydd gyda BBC Cymru Wales

Mae ceisiadau wedi agor am 10 swydd prentis newydd gyda BBC Cymru Wales.

Mae’r cynllun yn para 12 mis, lle byddwch yn cael eich cyflogi am y cyfnod ac yn gweithio yn bennaf yng Nghaerdydd. Byddwch hefyd yn cael cyfle i weithio ar draws un o’r meysydd cynhyrchu cyffrous ac efallai y bydd rhai prosiectau’n gofyn i chi ffilmio ar leoliad, felly mae hyblygrwydd i deithio’n cael ei ffafrio, ond nid yw’n hanfodol.

Wrth ddatblygu sgiliau ymarferol drwy ddysgu’n uniongyrchol yn y swydd, byddwch yn astudio tuag at Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol, sy’n cael ei ddarparu gan Sgil Cymru. Mae’n cael ei ddarparu ar sail blociau, sy’n golygu y byddwch yn astudio yn ystod cyfnodau o’r cynllun gwaith tuag at eich cymhwyster a fydd yn cael ei gyflwyno yng nghanolfan y darparwr dysgu yn Pinewood Studio Cymru.

Efallai y cewch chi gyfle i weithio ar draws un o’r meysydd canlynol yn BBC Cymru Wales:

  • Drama ar y Teledu – Gwisgoedd, Celf, Ôl-gynhyrchu, Grip, Sgript, Swyddfa Gynhyrchu, Cynorthwy-ydd Lleoliad
  • Rhaglenni Ffeithiol ar y Teledu
  • Chwaraeon
  • Radio
  • Digidol a Marchnata

Yn ystod eich prentisiaeth byddwch yn cael profiad mewn dau faes cynhyrchu:

Creadigol: O gynnig syniadau am raglenni i ymchwilio i straeon a lleoliadau. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr talentog ac yn cysylltu â chyfranwyr i helpu i greu cynnwys o safon.

Rheoli Cynhyrchu: Ar gyfer y rhai ohonoch chi sydd â sgiliau trefnu a chynllunio gwych ac sy’n frwd am ddod â chynhyrchiad at ei gilydd – Gallech fod yn cefnogi’r cynllunio, logisteg y rhaglen, iechyd a diogelwch a hawlfraint.

Dyddiad cau: 5ed Ebrill 2018.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i ymgeisio.