PRENTISIAID SFX

Un o’r meysydd lle mae perthynas hirdymor agos gyda ni, yw mewn effeithiau arbennig. Rydyn ni wedi cael nifer o brentisiaid ar leoliad gwaith am flwyddyn gyfan gyda Real SFX dros y blynyddoedd, yn cychwyn gyda Dewi Foulkes mwy na ddeng mlynedd yn ôl, a’r prentis diweddaraf i weithio gyda’r cwmni oedd Charlie Dodd (gweler y llun uchod, Dewi i’r chwith a Charlie i’r dde).

Mae’r rhan fwyaf o’n prentisiaid effeithiau arbennig yn dal i weithio yn y maes, gyda nifer ohonynt yn cael cynnig rolau parhaol gyda Real SFX ar ôl y brentisiaeth. Mae ein prentisiaid Real SFX yn cynnwys David (Dai) Kneath, Santino Petrosillo, Stephen  Waldron, Daniel Snelling, Jess David, Alex Bateman, Will Hougham, ac, wrth gwrs, Dewi a Charlie.

Siaradon ni gyda Charlie yn ddiweddar, ar ddiwedd ei brentisiaeth, i ofyn beth sydd nesaf iddo. Dyma oedd ganddo i ddweud:

 

“Gorffennais i fy mhrentisiaeth ar y 21ain o Ionawr a wnes i wir mwynhau fy mlwyddyn fel prentis gyda Real SFX. Rydw i wedi cael cynnig swydd yn y busnes yn parhau fel artist SFX technegydd iau ac rydw i’n falch iawn.

Mae’r rôl yn cynnwys cynnal, trwsio a chreu offer a helpu i gynllunio a chreu rigiau. Rydw i’n chwarae rhan ymhob agwedd o lwytho citiau a gwneud yn siŵr bod gan bob cynhyrchiad popeth sydd angen o ran effeithiau arbennig ar gyfer diwrnod o saethu. Dwi nawr yn rigio mwy o brosiectau fel technegydd yn gweithio ar Dr Who, Lazarus a Sexy Beasts, sy’n golygu mwy o brofiad arbennig.

Mae’n uchelgais i mi i geisio lleihau’r gap rhwng effeithiau arbennig a’r adran gelf yn y pen draw, gan fy mod i wedi astudio celf a chynllunio 3D – sy’n angerdd mawr i fi. Y mwyaf dwi ar set, y mwyaf dwi’n gweld y potensial am hwn, oherwydd mae lot o broblemau yn gallu codi wrth drio gosod effaith pan mae’r adran gelf wedi gorffen prosiect yn barod ac mae’n rhaid i ni ffeindio ffordd i wneud i rywbeth weithio. Mae’n digwydd y ffordd arall hefyd, pan rydw i wedi creu rhywbeth sydd angen mynd at yr adran gelf i gael ei wisgo ac mae hynny’n gallu achosi problemau. Rydw i yn mwynhau’r sialens yma a datrys problemau yn sydyn, ond rydw i hefyd yn meddwl gall hwn fod yn broses sy’n fwy cydweithredol a gall hynny golygu creu rhywbeth anhygoel ar y cyd. Rydw i’n edrych ymlaen at ddysgu mwy ac ychwanegu at fy sgiliau yn y blynyddoedd sydd i ddod.”

 

Fe wnaethon ni hefyd dal lan gydag un o’n gyn-brentisiaid, Santino Petrosillo, i weld beth yw ei sefyllfa o ran gwaith erbyn hyn ac i glywed am ei daith ar ôl ei brentisiaeth. Er nad yw Santino yn gweithio mewn effeithiau arbennig yn y byd ffilm a theledu rhagor, mae’r sgiliau a ddysgodd ef gyda Real SFX a trwy gydol ei brentisiaeth wedi, yn ôl e, bod yn werthfawr dros ben.

 

“Wnes i gwblhau fy mhrentisiaeth gyda Real SFX Ltd yng Ngorffennaf 2016. Ar hyn o bryd, rydw i yn fy mlwyddyn olaf ym mhrifysgol yn astudio BSc mewn Peirianneg Fecanyddol ac yn dechrau gwaith fel Peiriannydd Rheoli Cywirdeb Asedau ar gyfer Tata Steel ym mis Medi.

Fe wnaeth fy mhrentisiaeth gyda Real SFX fy helpu i ddeall pwysigrwydd cynnal a chadw a threfnu asedau cwmni gan fod hyn yn cael effaith ar weithrediadau’r cwmni yn ddyddiol. Mae Sgil Cymru wedi dysgu’r hanfodion o weithio’n llawrydd sydd wedi fy helpu am flynyddoedd wrth weithio fel weldiwr/gwneuthurydd llawrydd yn y sector creadigol (theatr yn bennaf). Yn y 3 mlynedd nesaf, fy mwriad ar gyfer fy ngyrfa yw helpu i gyfrannu yn y datblygiad o dechnolegau gyda ddim allyriadau o fewn y diwydiant dur yn y Deyrnas Unedig.”

 

Rydym yn dymuno’n dda i’r holl gyn-brentisiaid ac yn edrych ymlaen at glywed am eu llwyddiannau yn y dyfodol!

 

Os oes diddordeb gyda chi mewn prentisiaeth yn y diwydiant ffilm a theledu, cysylltwch gyda ni. Mae prentisiaeth CRIW yn recriwtio NAWR!

CLICIWCH YMA AM FWY O WYBODAETH AR SUT I YMGEISIO