Pump Newydd i Oleuo’r Diwydiant Teledu yng Nhgymru

Mae Sgil Cymru wedi recriwtio 5 trydanwr ar ei gynllun Camu Fyny.

Mae Camu Fyny yn gyfle prin i weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant i symud ymlaen yn eu gyrfa, a hefyd ar gyfer y rhai sydd yn arbenigwyr cymwysedig sydd eisiau gweithio ym myd teledu. Bydd y cynllun hyfforddiant yn cael ei deilwra i’r unigolyn yn ôl eu anghenion, a bydd pob cyfranogwr yn ymgymryd â lleoliad neu gwrs yn para hyd at 10 wythnos, yn derbyn lwfans hyfforddi ar gyfer y cyfnod cyfan.

Yn dilyn yr angen a arweinir gan y diwydiant a amlygwyd gan Sgrin Cymru/ Llywodraeth Cymru, mae Sgil Cymru wedi recriwtio 5 o drydanwyr domestig a masnachol profiadol i gamu ymlaen yn eu gyrfa trwy ennill profiad fel Trydanwr yn y diwydiant teledu.

Fel rhan o’u rhaglen Camu Fyny bydd yr hyfforddeion yn gweithio ar gynyrchiadau drama BBC Cymru Wales a Stiwdio Blaidd Cymru. Yn ogystal â hyn bydd yr hyfforddeion yn mynychu amryw o weithdai er mwyn paratoi am fywyd ar set. Bydd y gweithdai yma yn cynnwys ymwybyddiaeth cit y diwydia
nt ac iechyd a diogelwch ar set. Hefyd bydd yr hyfforddeion yn mynychu gweithdy undydd lle  y byddan nhw yn creu CV i’r  diwydiant cyfryngau.

Dyma ein hyfforddeion:

Craig Parker – Gwynedd
Mae gan Craig dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector peirianneg a gosod trydanol. Mae ei brofiad yn cynnwys gweithio mewn amgylcheddau diwydiannol masnachol ar raddfa fawr. Ers 2015 mae Craig wedi bod yn hunangyflogedig, gan weithio gyda gwahanol gontractwyr ar nifer o ddatblygiadau ledled y DU.

John Jones – Abertawe
Mae John wedi bod yn gweithio fel trydanydd domestig, masnachol a diwydiannol am nifer o flynyddoedd. Mae ei waith yn cynnwys gosod systemau goleuadau argyfwng, ffitiadau a chyflwyniadau siop, yn ogystal ag arolygu a phrofi gwahanol systemau trydanol.

Richard Baldwin – Pontyclun
Mae gan Richard dros 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant trydanol. Ar ôl cwblhau prentisiaeth gydag AG Leers, fe ddringodd i fyny’r ysgol i swyddi uwch ac yn ddiweddar mae Richard wedi gorffen gweithio fel Goruchwyliwr Trydanol gyda Solex Electrical. Bellach mae’n rhedeg ei gwmni ei hun sy’n arbenigo mewn gwaith domestig a masnachol yn ogystal â gosod CCTV a larymau diogelwch.

Richard James Pearce – Pontypridd
Gyda 14 mlynedd o brofiad fel Trydanwr mae Richard wedi dringo’r rhengoedd yn y diwydiant trydanol. Dros y blynyddoedd mae Richard wedi ennill cefndir cryf mewn adeiladau newydd, adnewyddu, dylunio ac adeiladu yn ogystal â gwaith addysg a chynnal a chadw. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Trydanwr/ Amcangyfrifydd ar gyfer Sonos Electrical Services lle mae ei ddyletswyddau’n cynnwys gosod, profi ac ardystio prosiectau.

Simon Jeffreys – Abertawe
Mae Simon yn drydanwr cymwys gyda thros 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant. Yn ystod ei amser fel Trydanwr mae Simon wedi perchen ei fusnes trydanol ei hun yn ogystal â bod yn bartner ar y cyd mewn cwmni gosod Solar PV. Ynghyd â’i fusnes ei hun, mae’n gweithio fel Is-gontractwr Trydanol ar gyfer MIC Ltd.

Am gamu fyny yn eich gyrfa? P’un a ydych yn Ysgrifennydd Cynhyrchu eisiau camu fyny at Gydlynydd Cynhyrchu, neu AD sydd eisiau symud i fyny gradd, rydym am glywed gennych. Dwedwch wrthym beth sydd angen arnoch a pham.

Anfonwch hyd at 200 o eiriau am eich hun a chopi o’ch CV at lisa@sgilcymru.com.