Cefnogir y rhaglen hon gan Gronfa Sgiliau Ffilm ScreenSkills gyda chyfraniadau o gynyrchiadau ffilm y DU.
Pryd oedd cwrs?
Rhedodd y cwrs am 10 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, dros bythefnos, gan ddechrau ar ddydd Llun, 28ain o Ionawr a gorffen ar ddydd Gwener, 8fed o Chwefror 2019.
Beth oedd strwythur y cwrs?
Rhennir y cwrs yn dri phrif elfen o reoli lleoliad
- Sgowtio
- Gwaith Papur Cynhyrchu a Hierarchaeth yr Adran Lleoliad
- Ymarferion ymarferol gydag ymweliad ar set
Pwy oedd tiwtor y cwrs?
Lowri Thomas
Hyfforddodd Lowri fel Rheolwr Llawr Cynorthwyol ac yna fel Rheolwr Cynhyrchu yn BBC Cymru Wales yn ystod y 80au a’r 90au cyn mynd ymlaen i fod yn Rheolwr Lleoliad ar ei liwt ei hun, gan weithio ar gynyrchiadau drama a ffilm BBC ac S4C. Mae credydau Lowri yn cynnwys Dr Who, Rocket’s Island, Hollyoaks a Pobol y Cwm, yn ogystal â nifer o hysbysebion, ffilmiau nodwedd ar gyllideb isel, cynyrchiadau byw a recordiau di-ri eraill.
Roedd rôl Lowri fel Rheolwr Prosiect ar gyfer prosiect Roath Lock y BBC yn gweithio yn agos â chynyrchiadau megis Upstairs Downstairs, Dr Who and Casualty. Yn fwyaf diweddar, mae Lowri wedi gweithio ar ffilmiau nodwedd Prydeinig ac Almaeneg yn Eryri a Lerpwl yn ogystal ag ar gynyrchiadau llai i gwmnïau Americanaidd a Siapaneaidd.
Cyn-hyfforddeion
“Roedd yn anhygoel i gael siarad gyda pobl ậ phroffil uchel yn y diwydiant sydd gydag ystod eang o brofiad.”
“Roedd pawb yn hynod o amyneddgar a hael, gan adael inni ofyn cymaint o gwestiynau ag oeddwn ni eisiau.”
“Byddwn yn argymell y cwrs i ymgeiswyr y dyfodol!”
“Doeddwn i ddim yn siŵr beth i ddisgwyl ond roedd e’n ardderchog. Doeddwn i ddim yn disgwyl y lefel yma o broffesiynoldeb na phroffil uchel y siaradwyr.”
“Roedd y cwrs yn fwy na be o’n i’n disgwyl gan gynnwys y rôl, y sesiynau a’r bobl. Roedd popeth yn well ac yn fwy nag o’n i’n disgwyl.”
“Y rhan orau oedd cael rhywun fel Lowri yno’n llawn amser. Fe gymerodd hi yr amser i ddod i nabod ni i gyd, ac i roi cyngor unigol gyda chyfoeth o argymhellion a chysylltiadau.”
“Rydw i wedi ennill profiad gwaith allan ohono ac mae gen i gyfweliadau yn dod i fyny!”
“Mae’r cwrs hwn wedi teimlo fel ei fod yn agor y drws i mewn i’r diwydiant, gan gyfarfod â phobl sy’n awyddus i helpu. Er ei bod hi’n rhy fuan i wybod sut mae’r cwrs hwn wedi fy elwa, mae’r cynnydd mewn hyder eisoes yn cael effaith.”
Pwy oedd y siaradwyr gwadd?
Yn ystod y pythefnos, roedd y cynnwys yn cael ei gyflwyno ar y cyd â siaradwyr gwadd profiadol iawn cafodd eu briffio’n llawn ar y prosiect, a phwy defnyddiodd eu profiadau o reoli lleoliad mewn ffilm nodwedd i arwain yr hyfforddeion drwy’r broses ddysgu.
Finlay Bradbury
Mae Finlay Bradbury wedi gweithio mewn lleoliadau ar nifer o ffilmiau mawr Hollywood – yn rheoli lleoliad ar gyfer ffilm Disney, CHRISTOPHER ROBIN, THE COMMUTER yn cynnwys Liam Neeson a’r comedi rhamantus BRIDGET JONES’ BABY. Mae hefyd wedi sgowtio am leoliadau ar gyfer ffilm Tim Burton MISS PEREGRINE’S HOME FOR PECULIAR CHILDREN a X-MEN: FIRST CLASS, ac wedi gweithio ar CAPTAIN AMERICA: THE FIRST AVENGER a THE DARK KNIGHT. Gallwch weld ei IMDb yma.
Iwan Roberts
Mae credydau Iwan yn cynnwys rheoli lleoliadau ar gyfer gynyrchiadau BBC One megis CASUALTY, DOCTOR WHO a KEEPING FAITH, y ffilm SUBMARINE gan Richard Ayoade a’r ffilm biopic, MR.NICE. Gallwch weld ei IMDb yma.
Owain Gillard
Wedi treulio rhai blynyddoedd fel gwr camera, dechreuodd Owain Gillard ei yrfa lleoliadau yn swyddfa canolbarth Sgrin Cymru cyn adleoli i swyddfa’r de ddwyrain. Wedi gweithio yno am nifer o flynyddoedd, mentrodd i’r byd llawrydd gan ddechrau gyda BBC Birmingham ar Father Brown a WPC56. Ers hynny mae wedi gweithio ar gynyrchiadau o bob math, gan gynnwys sgowtio ar ail gyfres The End of the F***ing World ar gyfer Netflix / Channel 4 a War of the Worlds ar gyfer Fox, ac hefyd rheoli lleoliadau ar BBC Casualty a chyfres newydd S4C, ’35 Awr’. Gallwch weld ei IMDb yma.
Stephen Nicholas
Mae Stephen yn Ddylunydd Cynhyrchu profiadol a Chyfarwyddwr Celf gyda phrofiad tair blynedd ar hugain yn y diwydiant Ffilm a Theledu. Mae ei gredydau yn cynnwys Doctor Who, Torchwood, Sherlock a’r Sarah Jane Adventures. Mae wedi gweithio ar lawer o ffilmiau nodwedd dros y byd yn amrywio o ran graddfa a chyllidebau, gan gynnwys De Affrica, Romania ac Ynys Manaw. Gallwch weld ei wefan yma.
Andy Dixon Facilities
Mae cyfleusterau gan ADF yn darparu cerbydau gwasanaeth ar gyfer cynhyrchiadau Teledu a Ffilm yn y DU ac ar draws Ewrop, gan arbenigo mewn cymorth ar-leoliad ar gyfer dramâu a ffilmiau nodwedd mawr. Gyda fflyd llogi effeithlon a smart, gan gynnwys ôl-gerbydau artiste a thryciau adrannol ar gyfer gwisgoedd, colur a chynhyrchu, yn ogystal â cherbydau bwyta a honeywagons.
Creative Risk Solutions
Mae Creative Risk Solutions yn darparu cyngor arbenigol ac yswiriant cynhwysfawr ar draws sawl sector diwydiant gwahanol, gan gynnwys tîm Yswiriant Cyfryngau arbenigol sydd â thros 30 mlynedd o brofiad o ddarparu yswiriant ar gyfer cynyrchiadau teledu, ffilm ac hysbyseb.
Lubas Medical
Darparwr hyfforddiant cyn-ysbyty a phersonél meddygol sy’n cynnig hyfforddiant meddygol a chymorth parafeddyg. Mae perthynas y cwmni gyda chorfforaethau teledu fel y BBC wedi datblygu ers ddarparu gwasanaeth meddygol ar gyfer y gyfres gyntaf o Dr Who ac ers rhoi cymorth parafeddyg parhaus ar y setiau o gynyrchiadau gan gynnwys: Casualty, Torchwood, Plant mewn Angen a Upstairs Downstairs (i enwi ychydig). Mae eu cleientiaid hefyd yn cynnwys GIG Cymru, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, FOX a Chlwb Pêl-droed Southampton.