Cyflwynwyd trydydd cwrs Hyfforddiant Ffilm Sgil Cymru mis diwethaf.
Cymrodd 8 Reolwr Lleoliadau newydd, ran mewn gweithdau ymarferol ar sgowtio, iechyd a diogelwch, a sawl pwnc arall sy’n gysylltiedig a’r swydd.
Mynychodd sawl Rheolwr Lleoliadau profiadol, fel siaradwyr gwadd, gan gynnwys Finlay Bradbury, un o Reolwyr Lleoliadau SPECTRE, a Gareth Skellding – rheolwr cwmni lleoliadau ‘Location Solutions’.
Gweithiodd yr hyfforddeion ar sgript, ac yna sgowtio lleoliadau o gwmpas Caerdydd. Cafon nhw gyfle hefyd, i ymlweld a set ffilm Hollywood ‘SHOW DOGS’, o ddysgu mwy am swydd Rheolwr Lleoliad ar gynhyrchiad mawr.
Wrth gwblhau’r cwrs, dyma beth roedd gan yr hyfforddeion i’w ddweud:
“Roedd y cwrs yn wych, wnes i ddysgu llawer a dwi’n teimlo’n llawer mwy hyderus I fod yn Reolwr Lleoliadau Cynorthwyol nawr.”
“Roedd y cwrs yn well nag oeddwn i’n disgwyl – profiad hyfryd, ddaeth i ben yn rhy gloi!”
“Mwynheais i’r cwrs yn fawr, a dwi’n teimlo fy mod wedi cael sylfaen da i weithio ohono.”
Cafodd y rhaglen yma’i noddi gan Gronfa Sgiliau Ffilm Creative Skillset, a chronfa Loteri Genedlaethol BFI Film Forever. Mae’r cwrs nesaf ar gyfer criw sydd yn edrych i ddysgu sut i ddefnyddio Movie Magic Scheduling and Budgeting. Mae ceisiadau ar agor nawr – mwy o wybodaeth yma.
Leave a Reply