Yr wythnos hon mynychodd ein Rheolwr Gyfarwyddwr, Sue Jeffries Ddigwyddiad Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i rannu arfer a gweledigaeth Sgil Cymru ar gyfer ein cynllun brentisiaeth ffilm a theledu llwyddiannus – CRIW 2022-2023.
Os ydych chi’n ystyried gwneud cais am y cynllun hwn neu’n adnabod rhywun a allai fod â diddordeb, dyma rywfaint o’r hyn a rannodd Sue yn y digwyddiad – efallai y bydd yn eich helpu i benderfynu.
Yn gyntaf daw’r broses ddethol, dull ymarferol ac ystyriol sy’n annog ymgeiswyr i gydnabod/adnabod eu sgiliau ac un sy’n sicrhau bod y rhai a ddewisir yn sicr o ddod yn gyfranogwyr gwerthfawr o fewn y diwydiant yng Nghymru.
Mae ein cyn-brentisiaid wedi gweithio i nifer o gwmnïau dros y blynyddoedd, gan gynnwys: BBC, Severn Screen, Netflix, HBO, Sky, Bad Wolf, Boom Cymru, Short Form, S4C, ITV Cymru Wales, ar gynyrchiadau megis, Jamie Johnson, War of the Worlds, The Trick, Dal y Mellt, Casualty, Craith/Hidden, Havoc, His Dark Materials a Doctor Who. Ac o fewn y lleoliadau hyn, anogir ein prentisiaid i roi cynnig ar gymysgedd o swyddi er mwyn sicrhau’r llwybr gorau posib yn eu gyrfaoedd.
Yn ogystal â lleoliad gwaith, bydd prentisiaid yn mynychu cyfarfodydd dysgu naill ai ar-lein neu yng nghanolfan hyfforddi Sgil Cymru – mae hyn yn rhoi cyfle i Sgil Cymru ac aseswr o’r diwydiant ailgysylltu â’r prentis yn ogystal â chynnig cymorth ac arweiniad os bydd ei angen arnynt. Ym mhob cam o’r broses, ceir anogaeth a thrafodaeth agored er mwyn manteisio ar botensial yr unigolyn.
Heb os, mae cynllun CRIW yn ffordd wych o ddod i mewn i’r diwydiant. Ym mis Chwefror eleni, cwblhaodd 9 prentis eu taith gyda ni ac maent bellach yn gweithio’n llawn amser yn eu sectorau dewisol. Ar hyn o bryd mae gennym 6 prentis yn hyfforddi yng ngogledd Cymru a chyn bo hir byddwn yn recriwtio 6 arall – felly cadwch olwg. Ym mis Ebrill fe wnaethom gyflogi 5 prentis newydd a’r wythnos hon, rydym wedi dechrau ein proses recriwtio unwaith eto gyda 14 o leoedd ar gael.
Os ydych chi neu rywun agos atoch yn ysu i weithio yn y diwydiannau creadigol, heb os cynllun CRIW yw un o’r ffyrdd gorau o roi hwb i’r daith honno. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma!