Bydd cwrs hyfforddiant dwys ar gyfer criw lleoliadau’r dyfodol, yn cael ei ddarparu gan Sgil Cymru, gan gynnwys gwybodaeth holl-bwysig o’r diwydiant ffilm a sgiliau ymarferol, o flaen blwyddyn prysur iawn i’r diwydiant ffilm yng Nghymru. Mae buddsoddiad yn Pinewood Studio Cymru, Caerdydd yn ogystal a stidwios arall ledled Cymru, wedi denu sawl cynhyrchiad mawr at y wlad, a bydd Sgil Cymru yn helpu gweithwyr y diwydiant i symud lan neu ar draws i swyddi gwahanol, er mwyn ymateb i’r galw cynyddol o gwmnioedd sy’n ffilmio yng Nghymru, o wledydd dros y byd.
Yn ystod mis Ionawr 2017, dros bythefnos o hyfforddiant arbenigol mewn lleoliadau ar gyfer ffilm, bydd gwesteion o’r diwydiant yn cymryd rhan mewn sesiynau dosbarth, bydd yn cyd-fynd gyda briffiau ymarferol mewn sawl lleoliad gwahanol.
Finlay Bradbury, Rheolwr Lleoliadau (Spectre, Bridget Jones’ Baby, The Dark Knight) yw un o’r arbenigwyr fydd yn rhannu gwybodaeth. Bydd rhai o hyfforddeion y cwrs, hefyd yn cael cynnig profiad gwaith gyda Location Solutions, tim tu ol i ffilm enfawr Hollywood – Show Dogs, sydd yn saethu yn Pinewood Studio Cymru ar hyn o bryd. Mae credydau Gareth Skelding o Location Solutions yn cynnwys, The Bastard Executioner a Set Fire to the Starts, bydd ef hefyd yn cynnig cyngor i’r hyfforddeion. Dywedodd Gareth:
“Yn bendant o safbwynt cwmni sydd yn arbenigo mewn lleoliadau ar gyfer cynyrchiadau mawr, mae yna lawer o gyfleoedd ar gyfer criw lleoliadau a fixers, yn enwedig yng Nghymru ar hyn o bryd, gan mae’r diwydiannau creadigol yw’r diwydiant sy’n tyfu’n gyflymaf yma. Gyda’r cymhellion sy’n cael eu cynnig i gwmnioedd cynhyrchu byd-eang er mwyn dod a chynhyrchiadau i Gymru, mae’n teimlo fel bod 2017 yn mynd i fod yn flwyddyn mawr arall i ni, gobeithio gallwn ni ddangos dyfnder ein talent creadigol a’r holl leoliadau anhygoel sydd gyda ni yma. Dwi’n edrych ymlaen at gwrdd a rhai o hyfforddeion cwrs Sgil Cymru, a gobeithio gall rai ohonynt ymuno â’n tîm ar rai o’r cynyrchiadau rydym ni’n gysylltiedig gyda nhw.”
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet yr Economy Ken Skates:
“Rydym ni’n gweithio’n galed i ddenu cynyrchiadau drama i Gymru, a chynnig pecyn cynhwysfawr o gymorth sydd yn cynnwys helpu cwmniau cynhyrchu i ffeindio’r lleoliad iawn a’i cefnogi wrth ffeindio criw lleol o safon uchel. Mae cynyrchiadau teledu yn creu budd economaidd tra bod ffilmio’n digwydd, a hefyd mae nhw’n creu budd hir-dymor trwy ddangos Cymru ar sgrin byd-eang, gan ddangos ein arbenigedd creadigol a’n lleoliadau prydferth, sydd yn helpu dod a twristiaid i Gymru.”
Lowri Thomas, Rheolwr Lleoliadau profiadol sydd yn gweithio ar raglenni fel Pobl y Cwm, Dr Who a Hollyoaks, bydd yn rhannu ei phrofiadau yn ystod hyfforddiant Sgil Cymru. Dywedodd Lowri:
“Mae’n rhaid i reolwr lleoliadau da ddeall briff a gwelediad cyfarwyddwr, cynllunydd a chynhyrchydd. Bydd yn rhaid iddyn nhw feddwl yn resymegol am ble byddyn nhw’n ffeindio’r lleoliadau mwyaf addas, gallu rheoli ei amser yn dda, a bod yn barod i weithio’n gloi. Mae cyfathrebu da yn holl-bwysig, yn ogystal ac agwedd hyderus a threfnus. Bydd gan reolwyr cynhyrchu ddealldwriaeth drylwyr o’r swyddi ar set, a bod yn ddigon cryf a diplomataidd i ddelio gyda thrigolion a chriw, gall fod yn annodd. Mae’n bwysig peidio cynhyrfu!. Bydd yr hyfforddeion yn dysgu am sogwtio, trefnu lleoliadau, cyflwyno eu canfyddiadau, trafod ffioedd a sawl ‘trick of the trade’.”
Lawnsiwyd Sgil Cymru blwyddyn yn ôl. Mae’r cwmni’n barod yn cael ei adnabod fel darparwr hyfforddiant ffilm a phrentisiaeth blaenllaw yng Nghymru.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru, Sue Jeffries:
“Hyn yw’r trydydd cwrs hyfforddiant ffilm rydym ni wedi darparu yn ddiweddar. Mae’r adborth rydym ni wedi cael oddi wrth hyfforddeion o’n cyrsiau Rheolwr Cynhyrchu ac Arolygydd Sgript wedi bod yn wych, ac rydym ni’n wedi helpu ambell un i gael gwaith yn barod ar gynyrchiadau lleol, gan gynnwys Will a Show Dogs.”
Cefnogir y rhaglen hyn gan Gronfa Sgiliau Ffilm Creative Skillset, gyda chronfa Loteri Genedlaethol BFI Film Forever. Bydd y cwrs Lleoliadau yn rhedeg am 10 diwrnod, Dydd Llun i Ddydd Gwener, dros bythefnos, yn dechrau ar Ionawr 16 2017, ac yn dod i ben ar Ionawr 27 yn Pinewood Studio Cymru, Caerdydd. Cost y cwrs yw dim ond £350.00 i bob hyfforddai. Dylai’r rhai sydd gyda diddordeb mewn cymryd rhan ymweld â www.sgilcymru.com am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio erbyn dydd Gwener 6 Ionawr 2017.
Leave a Reply