Stori Camu Fyny Gareth

Mae prentis Camu Fyny 2019, Gareth Mabey, wedi bod yn gweithio fel Golygydd Cynorthwyol yn y maes drama am dros chwe blynedd. Ei nod wrth ymuno â’r rhaglen oedd cael mwy o brofiad golygyddol, fyddai’n ei alluogi i gymryd y cam nesaf yn ei yrfa.

Yn ystod ei leoliad gwaith, bu Gareth yn gweithio ar un o sioeau mwya’ poblogaidd y BBC, Casualty, ymhlith cynyrchiadau eraill.

“Fel Golygydd Cynorthwyol yn y maes drama, mae’r gwaith yn amrywio o ddydd i ddydd, yn ddibynnol ar y cynhyrchiad ond fel rheol mae’n dechrau’n gynnar gyda MFXs a rushes sain o’r diwrnod ffilmio blaenorol. Mi fyddai’n prosesu’r rhain, eu labelu a’u trefnu cyn eu trosglwyddo i’r golygydd. Yna, bydd rushes y diwrnod cynt yn cael eu gwylio gan y tîm. Unwaith i’r rushes gael eu prosesu, mi fyddai’n eu rhoi at ei gilydd, adeiladu dyluniad sain dros dro, neu ychwanegu vfx dros dro, beth bynnag fydd ei angen”

Mae Gareth wedi gweithio ar ystod o sioeau rhwydwaith y BBC, gan gynnwys Sherlock, Peaky Blinders a Kiri ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar Gangs of London ar gyfer Sky Atlantic/HBO. Nod Gareth wrth ddod yn brentis Camu Fyny oedd datblygu ei sgiliau golygyddol, fel ei fod yn gallu camu fyny o’i waith fel Golygydd Cynorthwyol, i fod yn Olygydd – sef rôl fwy greadigol.

“Roedd gweithio gyda golygyddion ar gyfres ddrama hirdymor, nid yn unig wedi rhoi dealltwriaeth bellach i fi ond hefyd wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau golygu a chael mewnbwn gwerthfawr. Bydd hyn i gyd yn help mawr i mi wrth i fi symud ‘mlaen i gyflawni fy nod”