Croesawodd Sgil Cymru Shelley Rees, fel hyfforddai ar gynllun Camu Fyny 2019.
Mae Shelley yn actores a chyfarwyddwraig lwyddiannus sydd wedi gweithio yn y meysydd ffilm, teledu, llwyfan a radio. Mae Keeping Faith, 35 Diwrnod, Casualty, Gwaith Cartref a’r Gwyll ymhlith ei chredydau actio eang.
“Wedi meithrin amryw sgiliau yn fy ngyrfa actio a chyfarwyddo, roeddwn yn awyddus i weld os oedd modd defnyddio’r un sgiliau mewn swyddi eraill o fewn y diwydiant. Roedd cymryd rhan mewn cwrs Cydlynydd Cynhyrchu a dysgu sut i ddefnyddio Movie Magic yn rhan bwysig o’r broses hon, fydd yn fy ngalluogi i fynd i gyfeiriad gwahanol gyda fy ngyrfa yn y dyfodol.
Mae’r cyfle i fod yn rhan o Camu Fyny wedi agor fy llygaid i’r posibiliadau, ac yn golygu bydda i yn gallu cymryd rhai llwybrau nad oeddwn wedi meddwl eu dilyn o’r blaen.”