Swydd Ddisgrifiad – Prentis CRIW

Prif Gyflogwr: Prentis Sgil Cymru

Rôl Prentis: Prentis CRIW

Lleoliad: Lleoliadau gyda chwmnïau a chynyrchiadau amrywiol yn ardal de Cymru.

**Mae’n angenrheidiol fod angen i brentis gael trwydded yrru a thrafnidiaeth bersonol.**

Mae Cynllun Prentisiaeth CRIW yn ffordd ardderchog o ddod i mewn i’r diwydiant, ac i gael blas ar sut mae’r sector wir yn gweithio, gan y bydd y prentis yn symud o gynhyrchiad i gynhyrchiad, yn ddibynnol ar y sgediwl saethu.

Mae’r rôl yn cynnig cyfleon i ennill profiad hanfodol o’r broses o gynhyrchu cynnwys ac yn cynnig cyfleon rhwydweithio eang, rhywbeth gwerthfawr iawn ym myd y Cyfryngau.

Mae criw cynhyrchiad ffilm neu deledu yn cynnwys amrywiaeth o wahanol adrannau, a gall gael ei staffio yn gyfan gwbl gan weithwyr llawrydd sy’n symud o gynhyrchiad i gynhyrchiad. Fel Prentis CRIW, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr llawrydd o fewn pa bynnag adran, gan gynnwys:

  • Cyfarwyddwyr Cynorthwyol – sicrhau cyfathrebu da ar set rhwng adrannau, gweithio gyda chast a chefnogi artistiaid.
  • Swyddfa Gynhyrchu – darparu cefnogaeth logistaidd trwy drefnu teithio/llety, cynhyrchu a dosbarthu gwaith papur.
  • Lleoliadau – sicrhau bod y lleoliad neu’r stiwdio yn barod ar gyfer y saethu, cynnal a chadw trwy gydol y diwrnod saethu, paratoi lleoliadau newydd.
  • Adran Gelf – helpu i greu propiau, helpu i ddosbarthu propiau, ac am storio propiau.
  • Ôl-gynhyrchu – darparu cefnogaeth ôl-gynhyrchu, gan ymwneud â ffeiliau fideo a sain.
  • Camera – darparu cefnogaeth i’r criw camera gan gynnwys dyletswyddau rhedwr, trin y ceblau, batris a lensys.
  • Gwisgoedd – cynorthwyo’r adran gyda golchi, smwddio, dyletswyddau rhedwr, ymchwilio, labelu a heneiddio gwisgoedd.
  • Colur – sicrhau cefnogaeth i’r adran gyda chyflenwadau, glanhau a delio ag artistiaid cefnogol.

Efallai bydd cyfleoedd mewn adrannau eraill hefyd yn dibynnu ar ofynion cynhyrchu. Y naill ffordd neu’r llall, byddwch hefyd yn gwneud te/coffi, yn siarad ar y ffôn/radio ac yn debygol o dreulio’r rhan fwyaf o’r dydd ar eich traed. Efallai y cewch eich hun yn gweithio am nifer o wythnosau ar un cynhyrchiad, ac yna ychydig ddyddiau yn unig ar un arall – yn union fel gweithiwr llawrydd.

Gall y rôl gynnwys gweithio oriau hir ac anghymdeithasol. Nid oes angen profiad blaenorol o weithio ym maes cynhyrchu, ond yn bendant mae angen i chi fod yn llawn cymhelliant, yn frwdfrydig ac yn barod i weithio’n galed.

Bydd protocolau gwaith Covid-19 mewn lle, fesul cynhyrchiad.

Gofynion

  • Wedi’ch lleoli yn ne Cymru gyda’r hawl gyfreithiol i weithio yn y DU ac ar gael ac yn barod i deithio a gweithio ar gynyrchiadau ar draws ne Cymru mewn lleoliadau amrywiol yn ogystal ag yng Nghanolfan Hyfforddiant Sgil Cymru (Great Point Seren Stiwdios, Tredelerch , Caerdydd, CF3 2GH).
  • Dal trwydded yrru a thrafnidiaeth personol.
  • Angerdd am wylio teledu a ffilmiau.
  • Diddordeb mawr mewn gweithio mewn rolau y tu ôl i’r llenni ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu ac yn dymuno dilyn gyrfa yn y diwydiant.
  • Gallu ymrwymo i 12 mis o’r cynllun prentisiaeth (Mai 2024-2025).
  • Ni ddylech fod mewn addysg amser llawn ar 28ain o Fai, 2024.
  • Mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer dysgu oddi ar y safle pan fo angen.
  • Mae cynllun prentisiaeth CRIW wedi’i anelu at bobl nad ydynt wedi cwblhau gradd. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais os nad yw eich gradd yn yr un maes galwedigaethol â’r rhaglen brentisiaeth.
  • Angen o leiaf 4 TGAU graddau A* i C (Saesneg a Mathemateg a ffafrir) neu gyfwerth.
  • Nid oes angen profiad blaenorol yn y diwydiant arnoch chi.

Cyflog

£15,000 PA.

Wrth weithio fel Prentis CRIW, byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 3, 12 mis, yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol.

Pa fath o berson sydd angen i mi fod?

  • Cyfathrebwr da
  • Dadansoddol
  • Hunan-gychwynwr
  • Penderfynol
  • Trefnus
  • Diplomataidd
  • Un da am gymryd cyfarwyddyd

Sgiliau Angenrheidiol:

Sgiliau TG cryf, gan gynnwys pecynnau Microsoft, fel Word ac Excel;

  • Y gallu i dderbyn cyfarwyddyd ac i weithio fel rhan o dîm;
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol dda;
  • Menter ac ymwybyddiaeth;
  • Y gallu i ymateb ac i weithio’n gyflym, dan bwysau;
  • Mwynhau gweithio mewn awyrgylch prysur ac o dan bwysau;
  • Trwydded yrru lân;

Cymwyseddau Cyffredinol

  • Gwaith tîm – gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm.
  • Rheoli cydberthnasau – gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol gydag amrywiaeth o bobl.
  • Cyfathrebu – y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth.
  • Dylanwadu a darbwyllo – y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad.
  • Cynllunio a threfnu – gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Blaenoriaethu a chynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
  • Dyfalbarhad – gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
  • Ysgogiad – dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
  • Hunanddatblygiad – dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
  • Hyblygrwydd – addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.

Mae Sgil Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, a chefndir economaidd-gymdeithasol.

Dyddiadau pwysig a sut i ymgeisio

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun, 8fed o Ebrill 2024 @ Canol dydd.

Gweithdai Recriwtio: Yn ystod yr wythnos yn cychwyn 22ain o Ebrill 2024

Dyddiad dechrau y Cynllun Prentisiaeth: Dydd Mawrth, 28ain o Fai , 2024.

CEISIADAU AR GAU AR HYN O BRYD

Cwestiynau? Cysylltwch YMA