Mae ceisiadau wedi agor am 10 swydd prentis newydd gyda BBC Cymru Wales.
Mae’r cynllun yn para 12 mis, lle byddwch yn cael eich cyflogi am y cyfnod ac yn gweithio yn bennaf yng Nghaerdydd. Byddwch hefyd yn cael cyfle i weithio ar draws un o’r meysydd cynhyrchu cyffrous ac efallai y bydd rhai prosiectau’n gofyn i chi ffilmio ar leoliad, felly mae hyblygrwydd i deithio’n cael ei ffafrio, ond nid yw’n hanfodol.
Wrth ddatblygu sgiliau ymarferol drwy ddysgu’n uniongyrchol yn y swydd, byddwch yn astudio tuag at Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol, sy’n cael ei ddarparu gan Sgil Cymru. Mae’n cael ei ddarparu ar sail blociau, sy’n golygu y byddwch yn astudio yn ystod cyfnodau o’r cynllun gwaith tuag at eich cymhwyster a fydd yn cael ei gyflwyno yng nghanolfan y darparwr dysgu yn Pinewood Studio Cymru.
Efallai y cewch chi gyfle i weithio ar draws un o’r meysydd canlynol yn BBC Cymru Wales:
- Drama ar y Teledu – Gwisgoedd, Celf, Ôl-gynhyrchu, Grip, Sgript, Swyddfa Gynhyrchu, Cynorthwy-ydd Lleoliad
- Rhaglenni Ffeithiol ar y Teledu
- Chwaraeon
- Radio
- Digidol a Marchnata
Yn ystod eich prentisiaeth byddwch yn cael profiad mewn dau faes cynhyrchu:
Creadigol: O gynnig syniadau am raglenni i ymchwilio i straeon a lleoliadau. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr talentog ac yn cysylltu â chyfranwyr i helpu i greu cynnwys o safon.
Rheoli Cynhyrchu: Ar gyfer y rhai ohonoch chi sydd â sgiliau trefnu a chynllunio gwych ac sy’n frwd am ddod â chynhyrchiad at ei gilydd – Gallech fod yn cefnogi’r cynllunio, logisteg y rhaglen, iechyd a diogelwch a hawlfraint.
Dyddiad cau: 5ed Ebrill 2018.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i ymgeisio.