"Mae recriwtio prentisiaid wedi bod yn angenrheidiol i gynnydd Real SFX dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym wedi bod yn gweithio gyda tîm Sgil Cymru ers 2011. Trwy gymryd rhan mewn un o brentisiaethau pwrpasol Sgil Cymru mae ein prentisiaid wedi ennill cymhwyster Diploma yn ogystal â 12 mis o brofiad ymarferol o yn ein gweithdy.
Fel prif hyfforddwr y diwydiannau creadigol gall ‘run cwmni arall yng Nghymru gynnig yr un arbenigedd, gwybodaeth a phrofiad. Os ydych yn edrych i ehangu eich gweithlu byddwn yn argymell unrhyw un i gyflogi prentis cyfryngau creadigol trwy Sgil Cymru."
"Mae'r prentisiaeth wedi bod yn brofiad aur"
"Fel cyflogwr, wrth gymryd prentisiaid mae’n hanfodol eich bod chi’n gwbl hyderus yn eich darparwr hyfforddiant i gefnogi’r prentisiaid a darparu dysgu sy’n cyd-fynd â gofynion y diwydiant.
Mae profiad helaeth Sgil Cymru o ddarparu hyfforddiant yn y diwydiant, a’i gyflenwi trwy weithwyr proffesiynol o’r diwydiant hwn, yn rhoi sicrwydd i gyflogwyr sydd yn edrych am gyflogi prentisiaid am y tro cyntaf. Does neb yn well am gynorthwyo prentisiaid i basio eu cymhwyster cyn mynd ymlaen i yrfa lwyddianus yn y sector.
Mae Sgil Cymru yn gweithio mewn partneriaeth agos â chi o’r cychwyn – gan sicrhau bod yr unigolion cywir yn cyfateb i’r swyddi cywir ac mae’r hyfforddiant dosbarth a dderbynir yn Ehangu’r dysgu yn y gweithle.
Gallaf ddweud heb flewyn ar dafod, fod llwyddiant cyflogi a chadw prentisiaid yn BBC Cymru Wales ddim ond yn bosibl oherwydd y gefnogaeth, y ddarpariaeth a’r wybodaeth gynhwysfawr mae Sgil Cymru yn ei gynnig."
"Mae staff Sgil Cymru wedi bod yn hynod gefnogol i’n gwaith ymgysylltu â ysgolion dros nifer o flynyddoedd. Maent bob amser yn awyddus i ymgysylltu â phobl ifanc o bob oed mewn ysgolion yn Ne Cymru; gan helpu disgyblion ac athrawon i ennill gwybodaeth gwerthfawr o Brentisiaethau a’r sector Greadigol yn gyffredinol. Mae Sgil Cymru yn gweithio’n agos gyda ni i sicrhau bod eu cyfleoedd prentisiaeth yn cael eu hysbysebu ar y Gwasanaeth Paru Prentisiaid ar gyrfacymru.com ac yn sicrhau bod eu cyfleoedd yn cael eu hyrwyddo i ystod eang o bobl. Mae Sgil Cymru yn awyddus, bob amser, i ymgysylltu â phobl ifanc trwy sianeli digidol a chyfryngau cymdeithasol ac wedi bod yn rhan o drefnu trafodaethau panel Prentisiaethau mewn digwyddiadau."
"Fel rhan o fy swydd fel Deon Dysgu yn y Gweithle yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, ac fel Pennaeth y QSA sef ein hadran Dysgu yn y Gweithle, rwyf wedi gweithio gyda thîm Sgil Cymru dros y 4 blwyddyn ddiwethaf.
Beth fedrai ddweud am Sgil Cymru? Mae cyd-weithio gyda’r tim yn ardderchog. Yn fwy pwysig, maen nhw’n darparu rhagoriaeth, trwy ei hyfforddiant a’u ddysgu, i’r prentisiaid maen nhw’n recriwtio ar ran sefydliadau cyfryngau yng Nghymru. Maen nhw’n rhoi’r dysgwr yn gyntaf ac yn hyfforddi’r unigolyn i lwyddo yn ei brentisiaeth ac yn ei helpu i gyflogaeth barhaus. Rwy’n mwynhau gweithio gyda’r tîm arbennig yma ac yn hapus i’w hargymell i unrhyw gyflogwr neu brentis."
"‘Hwn oedd y cyfle perffaith i ddysgu a gweithio ymhellach ar rhywbeth roeddwn yn teimlo'n angerddol amdani...ges i gymaint o hwyl...ac roeddwn i wrth fy modd pan welais i fy credyd teledu cyntaf - dydy hynny byth yn oedi."
"Wnaethon ni ddefnyddio un o gynlluniau Sgil Cymru er mwyn hyfforddi aelod o’n tîm i fod ar y lefel addas i fedru rheoli ein cynnwys cymdeithasol ac ar-lein. Ers iddo ddechrau gweithio gyda thîm Sgil Cymru mae ef wedi cynyddu o fewn ei rôl. Wnaethon ni gyd ffeindio tîm Sgil Cymru i fod yn hyfyw, yn gefnogol ac yn ddeallus. Mae ef nawr yn gweithio’n llawn amser gyda ni ag yn rhagori yn ei swydd. Byddwn yn argymell y cynllun prentisiaeth yn fawr ac yn cymeradwyo’r gefnogaeth ac arweiniad y mae e’n rhoi i dalent newydd Cymru."
"Mae gweithio mewn partneriaeth gyda Sgil Cymru yn hyfryd. Mae brwdfrydedd y tîm yn heintus, ac mae eu hymrwymiad i ddatblygiad sgiliau o fewn y sector Teledu a Ffilm yn anodd i’w cydweddu, ac mae’r gofal personol maen nhw’n rhoi i bob hyfforddai yn rhagorol. Mae eu cyrsiau o safon dechnegol uchel gyda’r ffocws ar baratoi’r unigolion am yrfaoedd o fewn y diwydiant. Mae canran llwyddiant y cyn hyfforddeion yn dyst i’r safon o hyfforddiant sydd ar gael. Mae Sgil Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu gweithwyr proffesiynol i lenwi’r bylchau sgil o fewn y diwydiant Teledu a Ffilm yng Nghymru."