CRIW Ôl-gynhyrchu

CRIW

Eisiau profiad go iawn o weithio tu ôl i’r llenni ar gynyrchiadau teledu a ffilm?

Barod i ennill cymhwyster Lefel 3 yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol AC i gael cyflog wrth ddysgu?

Picture of video and audio editing software

Dyma’ch cyfle i ymuno â CRIW – cynllun Prentisiaeth newydd sbon y diwydiant.


Ceisiadau bellach ar GAU

Crëwyd y rhaglen Brentisiaeth hon i adlewyrchu natur ddeinamig, hyblyg gwaith llawrydd – curiad calon y diwydiant. Byddwch yn barod i dreulio blwyddyn wedi ymgolli mewn amrywiaeth o gwmnioedd, cwrdd â phobl newydd a gweithio’n galed i gwblhau heriau newydd – gyda chyflog i’ch cefnogi wrth i chi ddysgu.  CRIW Ôl-gynhyrchu yw eich cyfle chi i ddatblygu’r sgiliau ac ennill y profiad ar gyfer gyrfa yn y diwydiant hwn.

Cafwyd cynllun peilot llwyddiannus ar gyfer CRIW yn 2020 a bu’r Prentisiaid hynny yn gweithio ar set drama boblogaidd Fox, War of the Worlds, gyda Daisy Edgar-Jones a Gabriel Byrne yn serennu. Darllenwch fwy am sut brofiad gafodd Tom, Josh a Jake. Mae 10 prentis cyfredol CRIW yn gweithio ar draws gynyrchiadau yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae Cymru eisoes wedi’i sefydlu fel un o leoliadau mwyaf blaenllaw’r byd ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm. Mae prentisiaid blaenorol a chyfredol Sgil Cymru yn gweithio ar gynyrchiadau fel His Dark Materials, Peaky Blinders a Casualty yn ogystal â Doctor Who, Pobol Y Cwm a Fleabag.

Ceisiadau bellach ar gau.

Cwestiynau? Cysylltwch YMA

Am wybod y diweddara’? Cliciwch YMA os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr e-bost i glywed am gyfleoedd pellach a diweddariadau o’r diwydiant.

CRIW