Wythnos 2 Cwrs Golygu Sgript- gan Mali Tudno Jones

Ein cyfle ni i ysgrifennu – Cyflwyniad i Ddatblygu Sgript

Cwestiwn da i olygydd sgript: Alla i gwtogi hwn?

Mae angen i ddrama sgrin fod mor fyr â phosib heb gyfaddawdu ar y cymeriad a’u taith.

Mewn yn hwyr, allan yn gynnar.

Ond sut i ddechrau ar benderfynu beth sy’n aros a beth sy’n mynd … beth sy’n gweithio a beth sydd ddim?

Ysgrifennwch grynodeb.

Nawr, gofynnwyd i ni ysgrifennu crynodeb ar gyfer Thelma a Louise.

Ddim yn hawdd gyda llaw – hyd yn oed gyda sgript daclus fel hon.

Ond mae ysgrifennu crynodeb yn taflu goleuni ar y darnau lletchwith. Mae’n helpu i nodi gwrthdaro canolog y sgript; a yw’n ddigon cryf? A yw wedi’i ddatrys? A yw’r weithred y mae’r cymeriadau’n ymwneud ag ef yn gyrru’r stori yn ei blaen?

Ac mae angen ymarfer…darllen sgript, ysgrifennu crynodeb, gwylio pennod teledu, ysgrifennu crynodeb, gwylio ffilm, ysgrifennu crynodeb…cadw arni er mwyn dod yn hyderus yn ein gallu ein hunain i grynhoi; dal ati er mwyn darganfod y cywair a’r traw i gyfleu’r stori’n effeithiol.

Gwell ymarfer te.