Wythnos 3 Cwrs Golygu Sgript- gan Mali Tudno Jones

Ar adegau, ma na ychydig o hud a lledrith fel golygydd sgript. Hyd yn oed os nad ydych yn hoffi sgript – mae ‘na ffordd drwodd.

Cam cyntaf – creu dogfen…dogfen sydd ar eich cyfer chi yn unig.

Dadansoddiad o’r sgript.

 

Mae’r broses yn fecanyddol … yn fwriadol felly. Mae’n gorfodi’r golygydd sgript i wneud yn lle meddwl, a dyma’r broses orau i edrych ar yr hyn sy’n digwydd wrth amlygu peirianneg fewnol y stori.

Bydd manylion yn cael eu datgelu: Stori pwy yw hi? Beth am rythm y stori? Gormod o gymeriadau? Dim digon? Beth sy’n gweithio … Beth sydd ddim.

 

Mae golygu sgript yn cymryd gwaith caled ac mae’r gwaith yn dechrau gyda’r ddogfen dadansoddi.

Nid yw’n beth da dweud wrth awdur bod rhan o’r sgript yn rhy araf neu’n rhy amwys; mae angen rhoi rhesymau diriaethol iddynt pam. Mae angen ichi gynnig eglurder.

 

Ac os ydych chi wedi gwneud eich gwaith – gallwch chi wneud hynny. Gyda hyder.