Curig Williams, 18, o Bontypridd, yw’r diweddaraf i ymuno gyda CRIW Sgil Cymru, fel Prentis CRIW Ôl-gynhyrchu. Bydd Curig yn gweithio gyda chwmnïoedd Ôl-gynhyrchu ar draws de Cymru.
Cyn ymuno fel rhan o’r brentisiaeth yma, roedd Curig yn astudio Diploma Lefel 3 Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol gyda Choleg y Cymoedd.
Bydd Curig yn brentis gyda Sgil Cymru am flwyddyn a chwblhau Diploma Lefel 3 fel rhan o’i brentisiaeth.
Crëwyd y rhaglen Brentisiaeth CRIW Ôl-gynhyrchu i adlewyrchu natur ddeinamig, hyblyg gwaith llawrydd – curiad calon y diwydiant.