Yr Haf yn Cychwyn i 15 Prentis

Yng nghanol twymyn mis Gorffennaf, dychwelodd ein prentisiaid cyfryngau 2017-18 yn ôl i Sgil Cymru yn Pinewood Studio Cymru am y tro olaf wrth iddynt gwblhau eu gwaith ar eu diploma lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol. Yn ogystal â gorffen eu cymhwyster, cyrafu pob un o’r prentisiaid arbenigwyr y diwydiant, Allison Dowzell o Screen Alliance Wales a Siân Gale o BECTU i siarad am eu camau nesaf yn y diwydiant, ac fe gawson nhw gweithdy CV gyda Sue Jeffries o Sgil Cymru a Matt Redd o Media CV Wizard.

Er bod y pymtheg o brentisiaid bellach yn gweithio’n ôl gyda’u cyflogwyr priodol – Amplified Business Content, BBC Cymru Wales ac ITV Cymru Wales – mae eu dysgu dosbarth wedi dod i ben a bydd eu rhaglen prentisiaeth yn dod i ben ym mis Medi. Ar ôl dysgu cymaint mewn cyfnod mor fyr, rhannodd rhai o’r prentisiaid eu huchafbwyntiau personol o’r rhaglen.

Cofiodd Owen Deacon, prentis newyddiadurwr dan hyfforddiant gydag ITV Cymru, gael ei daflu i’r dwfn o’r dechrau..

“Ar fy niwrnod cyntaf, es i allan gyda’r newyddiadurwr Rob Osborne a fy mentor Dafydd, i Ferthyr, lle wnes i gyfarfod â Michael Sheen. Roedd yr actor yn derbyn gwobr am y gwaith elusennol yr oedd wedi ei wneud â’r digartref. “

Cafodd y prentis ôl-gynhyrchu yn BBC Cymru Wales, Emily Anderson, ei synnu gan faint o gyfrifoldeb a gafodd hi ar ôl dim ond cyfnod byr yn y BBC.

“Ychydig o fisoedd yn ôl, roedd yn rhaid imi gamu i fyny oherwydd bod un o fy nghydweithwyr allan o’r swyddfa. Oherwydd hyn derbyniais i fy nghredyd cyntaf fel ‘Golygydd cynorthwyol’ ar gwpl o benodau o Casualty. Fel prentis, doeddwn i byth yn disgwyl derbyn credyd, felly roedd gweld fy enw i fyny ar y teledu yn brofiad swrrealaidd iawn.”

Fel Emily roedd Elizabeth Collins, prentis gwisgoedd yn BBC Cymru Wales, hefyd wedi cael cam annisgwyl i fyny’r rhengoedd i weithio fel person gwisgoedd wrth gefn ar Casualty.

“Roedd angen ychydig o ‘pickups’ ar gyfer rhai penodau. Golygodd hyn fod y tîm gwreiddiol sy’n gweithio ar y penodau hyn wedi symud ymlaen i floc arall. Am ddiwrnod roeddwn i ar y set gyda iPad yn fy llaw, nodiadau dilyniant pwysig a choesau’n crynu. a Ond gyda chymorth y goruchwyliwr, ffeindiais fy nhraed ac roeddwn yn teimlo mor llwyddianus ar ôl i’r diwrnod ddod i ben. Roedd hi’n ddiwrnod hir, ac roedd yna broblemau yr oedd angen delio â nhw ar y ffordd, ond gyda’i chyngor, cododd fy hyder ac fe wnaethon ni ddatrys y problemau gyda’n gilydd. Gyda mwy o ddyddiau’n digwydd fel hyn, rwy’n awyddus i aros a chynyddu o fewn y diwydiant cyffrous hwn.”

Mae profiad o weithio mewn tîm bach wedi agor llygad Jennifer Stiling, Prentis Cynnwys Fideo a Dylunio gyda Amplified Business Content.

“Un uchafbwynt mawr yw’r gallu i deithio o gwmpas y DU a datblygu fy sgiliau cyfathrebu a chymdeithasul proffesiynol wrth weithio gyda chleientiaid a chynnal cyfweliadau. Y peth gorau am y brentisiaeth hon yw fy mod i wedi ennill ymdeimlad o annibyniaeth o fewn fy rôl. Rwyf wrth fy modd yn cael fy ngorsaf waith a’n nyletswyddau.”

Yn olaf, roedd Holly Atkinson, un o brentisiaid digidol a marchnata BBC Cymru Wales, yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gafodd hi gan dîm Sgil Cymru.

“Mae’r gefnogaeth mae Sgil Cymru yn ddarparu eu prentisiaid yn werth y byd. Mae’r tîm yn sicrhau bod pob prentis ar y trywydd iawn ac yn symud ymlaen yn y gweithle a’u dysgu. Roedd pob bloc dysgu yn gyfle i ddal i fyny â phrentisiaid eraill ond hefyd i weld wynebau hapus Sgil Cymru!”