
Swydd Ddisgrifiad
Teitl Swydd
Cydlynydd Cwmni
Cyflog: Rhwng £25,000 a £30,000 yn ddibynnol ar brofiad
Mae Sgil Cymru yn gwmni bach, gweithgar iawn, sydd yn tyfu yn gyflym. Mae gennym ni staff sydd yn gweithio allan o Gaerdydd, Conwy, Abertawe a Chanada, ac mae angen Cydlynydd gwych i gadw trefn ar yr holl linynnau sydd o fewn y Cwmni, gan weithio yn agos gyda’r Prif Weithredwr, y Pennaeth Hyfforddiant, a’r Rheolwyr Prosiect, yn ogystal â Mentor SUS-OSS. Sgil Cymru yw’r prif ddarparwr hyfforddiant dwyieithog i’r diwydiannau sgrin yng Nghymru. Rydym wedi hyfforddi mwy na 200 o brentisiaid ers 2016, ond hefyd wedi cynnal nifer fawr o gyrsiau ar gyfer y sector yng Nghymru a’r DU. Ers Ebrill 2024 Sgil Cymru sydd yn arwain Clwstwr Sgiliau’r BFI yng Nghymru sef y Siop Un Stop-One Stop Shop.
Noder mai swydd weinyddol yw hon yn bennaf, er fod ymwybyddiaeth o’r sector sgrin yn ddymunol, nid yw’n hanfodol. Am sgwrs, neu i ymgeisio, gyrrwch CV at sue@sgilcymru.com
Lleoliad: Sgil Cymru, Caerdydd
Prif dyletswyddau a Cyfrifoldebau
- Y gallu i ddarllen, ysgrifennu a siarad y Gymraeg yn ogystal â Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.
- Cynnig gwasanaeth effeithiol cefnogol i staff Sgil Cymru a chynnig gwasanaeth i’r cleientiaid sy’n mynychu cyrsiau Sgil Cymru, gan gynnwys prentisiaid.
- Rheoli a gweinyddu yn y swyddfa, gan gynnwys sicrhau bod y swyddfa yn daclus ac yn weddus.
- Cynorthwyo’r Rheolwr Gyfarwyddwr, y Pennaeth Hyfforddi, Rheolwyr Prosiectau, Aseswyr, Mentor a chydweithio gyda’r holl dimau prosiect yn y weinyddiaeth a rhediad o brosiectau hyfforddi.
- Cydlynu marchnata a recriwtio ar gyfer ein holl gyrsiau hyfforddi.
- Rheoli’r swyddfa o ddydd i ddydd gan gynnwys ateb y ffôn, ymdrin â’r post ag e-bost, ffeilio, croesawu ymwelwyr a dyletswyddau clerigol eraill gan gynnwys goruchwylio’r cyflenwad offer swyddfa, llungopïo a sganio.
- Cyd-drefnu dyddiaduron fydd yn cynnwys amserlennu a chyd-drefnu cyfweliadau, cyfarfodydd, digwyddiadau, apwyntiadau, cyrsiau byrion a thasgau eraill tebyg ar gyfer aelodau o staff.
- Trefnu cyrsiau byrion a sicrhau bod y gwaith papur/arlwyo/cyfleusterau lluniaeth yn eu lle, boed hynny yn y swyddfa neu mewn canolfannau eraill. Bydd hyn yn cynnwys gwneud diodydd poeth, golchi llestri a chlirio.
- Darparu cymorth gyda gwaith cyfieithu (Cymraeg-Saesneg / Saesneg-Cymraeg)
- Trefnu a chynnal ffeiliau electroneg a phapur ar gyfer prosiectau.
- Cadw cofnodion mewn cyfarfodydd penodol
- Gweithio o fewn polisïau a gweithdrefnau Cyfle Cyfartal y Cwmni
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill rhesymol y gallai bod gofyn i chi eu gwneud.