LEFEL 4 (LLWYBR CYFRYNGAU RHYNGWEITHIOL)

Dechreuodd prentisiaeth Lefel 4 cyntaf Sgil Cymru yn 2016.

Yn ogystal â hyfforddi gyda Sgil Cymru yn Stiwdio Pinewood Cymru yng Nghaerdydd, mae’r prentisiaid wedi gweithio mewn nifer o rolau gwahanol – gan gynnwys datblygydd gwefannau, datblygydd apiau a chreu cynnwys ar-lein.

Ymysg y cwmniau sydd wedi cynnig cyfleoedd dros y blynyddoedd diweddar mae Equinox Communications, IT Pie, White Hart MultimediaLubas Medical.

Mae pob un o’r prentisiaid yn derbyn lwfans prentis gan eu cyflogwr, a 15-mis o brofiad gwaith go iawn yn y cyfryngau yn ogystal a llond trol o gysylltiadau allai fod yn ddefnyddiol i gael gwaith yn y dyfodol.

Prentisiaeth Lefel 4 yw hon, sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf prifysgol.  Mae’n bosib i unrhywun sy’n 18+ ar ddechrau’r cwrs ymgeisio. Nid yw’r prentisiaethau yma wedi’i anelu at raddedigion.

Cofia – mae’n bosib mynd i Brifysgol neu Goleg ar ôl cwblhau Prentisiaeth.  Ond nid swydd haf yw Prentisiaeth, mae’n ymrwymiad 15 mis o hyd.

Ariannir y rhaglen Brentisiaeth hon yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru

Gwnaed y prosiect yma’n bosib drwy Brentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro; y Prif Ddarparwr Hyfforddi ar gyfer Consortiwm y Gynghrair Ansawdd Sgiliau (QSA). Mae Prentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro wedi ei ariannu’n rhannol drwy’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd i ddarparu rhaglenni dysgu yn y gweithle led-led Cymru.Apprentice Footer