
Teitl Swydd
Gwirydd Mewnol
Cyflog
Rhwng £30,000 a £34,500 pro rata yn ddibynnol ar brofiad, neu £170 y dydd i berson llawrydd
Disgrifiad
Mae Sgil Cymru yn chwilio am Wirydd Mewnol dwyieithog i weithio gydag Aseswyr prentisiaid lefel 3 ar eu Prentisiaeth mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol. Bydd gan yr ymgeisydd perffaith gymhwyster Asesu ar gyfer y swydd hon – ond gall Sgil Cymru hyfforddi asesydd profiadol i fod yn Wirydd Mewnol.
Mae angen gwybodaeth drwyadl o’r diwydiannau sgrin ac mae’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg yn hanfodol.
Byddwn yn talu ffi o £170 y dydd, i berson llawrydd, neu hyd at £34,500 y flwyddyn pro rata i berson sydd am fod ar gyllun TWE. Swydd rhan amser yw hon. Gall hon fod yn swydd hyblyg i rywun sydd yn barod yn gweithio yn y sector, sydd am ychwanegu at eu portffolio o swyddi. Os am sgwrs cysyllter â, neu ymgeisiwch drwy anfon CV at sue@sgilcymru.com
Lleoliad: Sgil Cymru, Caerdydd
Prif anghenion, dyletswyddau a chyfrifoldebau
- Y gallu i ddarllen, ysgrifennu, teipio, a siarad y Gymraeg yn ogystal a Saesneg yn hanfodol.
- Rhaid bod yn Asesydd cymhwysedig, gyda gwybodaeth fanwl o asesu yn y gweithle.
- Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth eang o’r diwydiannau sgrin yng Nghymru a’r DU.
- Gwirio gwaith aseswyr gan sicrhau fod y gwaith yn gydnaws, safonol a chyfartal.
- Trefnu a chynnal ffeiliau electroneg a phapur ar gyfer prosiectau prentisiaeth.
- Gweithio o fewn polisïau a gweithdrefnau cyfle cyfartal y Cwmni.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill rhesymol y gofynnir eu gwneud.