Hwyl fawr i Criw y Gogledd 2024-2025!

Hwyl fawr a phob lwc i Tommy Harrop, Branwen Roberts, Aaron Jones a Flo Baverstock, ein CRIW yn y gogledd 2024-2025.

Mae’r 4 ohonynt wedi cael blwyddyn brysur dros ben! Maent yn mynd ymlaen i swyddi cyffrous yn cynnwys Hyfforddai Cynhyrchiad ar ffilm o’r enw ‘Black Church Bay’ yn ffilmio o amgylch Amlwch, Hyfforddai Camera gyda Tŷ’r Ddraig ar gyfres newydd Bear Grylls a gweithio ar ffilm cyfnod gyda Warner Bros Discovery yn yr Adran Gwisgoedd!

Diolch am eich holl waith caled!