SWYDD AR GAEL: Rhedwr/Cydlynydd Cynhyrchu

Mae Final Pixel Academy yn rhedeg rhaglen hyfforddi cynhyrchu rhithwir 9 mis yng Nghaerdydd ac maent yn chwilio am redwr/cydlynydd cynhyrchu i’w helpu gyda’r diwrnodau ar y set.

Mae 5 diwrnod yn benodol, wedi’u lleoli yn Stiwdios Fivefold, Heol Newydd, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr CF35 5NQ.

Y dyddiadau yw’r canlynol:

11eg o Fedi – Diwrnod 1 ar y safle yn Stiwdios Fivefold (9yb-5yh)

20fed o Dachwedd – Sesiwn ar y safle / Sesiwn Ymneilltuo 1 yn Stiwdios Fivefold (9yb-5yh)

4ydd o Ragfyr – Diwrnod 2 ar y safle yn Stiwdios Fivefold (9yb-5yh)

18fed a 19eg o Fawrth – Diwrnod 3 a 4 ar y safle yn Stiwdios Fivefold (9yb-5yh y ddau ddiwrnod)

Mae’r dyletswyddau’n cynnwys:

Cydlynu â thîm Final Pixel i gefnogi mynediad i’r garfan, cysylltu/cydlynu ag anghenion arlwyo a logistaidd y diwrnod hyfforddi a chefnogi hyfforddwyr gydag unrhyw anghenion hyfforddi/cynhyrchu sy’n wynebu’r gwaith. Mae’n swydd eithaf ysgafn, ond yn gyfle gwych i rywun sydd eisiau camu ymlaen i gynhyrchu rhithwir a chael mynediad i’r ystafell tra bod yr hyfforddiant yn digwydd ar y safle.

Mae’r tâl yn £135 y dydd, gan gynnwys prydau bwyd. Ad-delir costau teithio gyda derbynebau (rhywun lleol yn ddelfrydol os yn bosibl), a anfonebir ar ddiwedd pob diwrnod ar y safle.

Anfonwch CVs at jodi@finalpixel.com a chadarnhad eich bod yn rhydd ar y dyddiadau uchod. Mae Final Pixel hefyd yn agored i nifer o ymgeiswyr i ddarparu’r cyfle gan fod y dyddiadau wedi’u gwasgaru.