
Ar nos Sadwrn, buodd Claire yn cwrdd lan gyda 6 o’r 8 Prentis CRIW wnaeth ein gadael ni’r flwyddyn yma!
O’r chwith i’r dde Emily Newbold, Jake Finch, Lewis Hemmings, Mali Whitty, Morgan Powell a Rachel Lewis.
Mae pob un yn gweithio yn eu hadrannau dewisol ar gynyrchiadau dros De Cymru!
Roedd Rob Cairns a Jordan Williams ar goll, ond dim ond oherwydd eu bod nhw’n gweithio ar gynyrchiadau ar ddydd Sadwrn!
Mae hefyd llun o Jordan ar leoliad yn ei grys T ‘Sgil Cymru’ ac fe gafon ni ymweliad gan Lewis a Jordan yn y swyddfa hefyd! Pleser i ddal i fyny gyda’n cyn-brentisiaid ac i glywed am eu holl lwyddiannau!