SIOP UN STOP-ONE STOP SHOP

Yn 2024, lansiwyd adnodd ‘Siop Un Stop-One Stop Shop’ (SUS-OSS) sef Clwstwr Sgiliau BFI Cymru.

Mae’r fenter yn gydbartneriaeth rhwng nifer o hyfforddwyr yn y sector yng Nghymru sy’n cael ei arwain gan Sgil Cymru. Mae’r adnodd yn cynnwys gwefan a chyfryngau cymdeithasol lle mae cwmnïau hyfforddi’r diwydiannau sgrin ledled Cymru yn rhannu cyfleoedd, gwybodaeth a chyrsiau hyfforddi. Mae hefyd cyfleoedd cysgodi ar gael.

Mae Siop Un Stop-One Stop Shop hefyd yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim i siarad gydag ein mentor, Zoë Rushton, sy’n gallu cynnig cyngor ac arweiniad i’r rhai sy’n edrych i ddechrau allan yn y diwydiant, neu i’r rhai sydd am ail-hyfforddi neu uwchsgilio o fewn y sector. Yn ogystal, mae SUS-OSS yn cynnig cyrsiau hyfforddi ar y cyd gyda NFTS Cymru Wales mewn adrannau gwahanol trwy gydol y flwyddyn.

Mae Siop Un Stop-One Stop Shop yn cael ei gyllido gan y British Film Institute gyda chyllid gan y National Lottery Fund.

Dysgwch mwy trwy ymweld â’r gwefan siopunstop-onestopshop.cymru a thrwy ddilyn Siop Un Stop-One Stop Shop ar gyfyngau cymdeithasol Facebook, Instagram a Linkedin (dolenni @susonestopshop).