Sgil Cymru: Hyfforddwr y Cyfryngau
Mae Sgil Cymru yn ddarparwr hyfforddiant dwyieithog wedi’i leoli yn Great Point Studios yng Nghaerdydd. Mae gan ein tîm dros 200 mlynedd o brofiad cyfunol mewn hyfforddiant a chynhyrchu cyfryngau. Rydym wedi hyfforddi dros 250 o brentisiaid trwy weithio gyda chwmnïau ledled Cymru a thu hwnt gan gynnwys BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, Real SFX, Cardiff Theatrical Services, Bad Wolf, Blacklight, Expectation Entertainment, Eleven Film, Hartswood Films, Little Door Productions, Whisper North, Rondo, Vox Pictures, Mojo a Triongl. Mae ein prentisiaid hefyd wedi cael eu lleoli ar gynyrchiadau ar gyfer S4C, Netflix, Amazon, Sky, Channel 4, Channel 5, BBC Studios, ITV Studios, HBO/Warner Brothers, Discovery a Hulu. Rydym hefyd yn darparu pecyn o gyrsiau hyfforddi ar gyfer diwydiant ffilm a theledu’r DU ac yn rheoli Clwstwr Sgiliau BFI ar gyfer Cymru ‘Siop Un Stop – One Stop Shop’. Mae’r bartneriaeth gydweithredol hon rhwng darparwyr hyfforddiant Cymru, addysgwyr pellach ac uwch, a diwydiant, yn cydweithio i ddarparu ffordd glir, gydlynol a thryloyw i unigolion ymuno â’r diwydiannau sgrin neu i symud ymlaen o fewn eu swyddi.
Y Tîm
SUE JEFFRIES
Rheolwr Cyfarwyddwr

Cychwynnodd Sue fel Cynorthwyydd Cynhyrchu dan hyfforddiant efo HTV ac arweiniodd hynny i weithio fel Rheolwr Cynhyrchu, ac Arolygydd Sgript lawrydd, wedyn fel Cyfarwyddwr, Cynhyrchydd Llinell, a Chynhyrchydd Cyfres ar ddramâu. Mae Sue wedi gweithio ar bob math o ‘genres’; o newyddion i ddrama, plant i gerddoriaeth, yng Nghymru ac ar draws y byd, ac roedd hi’n gweithio’n llawrydd am dros 35 mlynedd cyn cychwyn Sgil Cymru efo’i gwr.
NADINE ROBERTS
Pennaeth Hyfforddiant

Astudiodd Nadine radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru. Mae hi bellach yn siaradwr Cymraeg rhugl ar ôl dysgu fel oedolyn. Ar ôl graddio, treuliodd Nadine 18 mlynedd yn Cyfle, cwmni hyfforddi, lle bu’n arbenigo mewn hyfforddiant ar gyfer y sectorau cyfryngau creadigol a digidol yng Nghymru. Roedd ei gwaith yn cynnwys rheoli cynlluniau hyfforddi strwythuredig, gan gynnwys gweithdai, lleoliadau, a phrentisiaethau, pob un wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion y diwydiant. Ers ymuno â Sgil Cymru yn 2016, mae Nadine wedi bod yn gyfrifol am reoli hyfforddiant i newydd-ddyfodiaid yn y sector sgrin trwy brentisiaethau. Mae hi hefyd yn gweithredu prosesau a systemau, yn monitro cynnydd hyfforddiant, ac yn goruchwylio diogelu a gofal bugeiliol ein prentisiaid, yn ogystal â rheoli a hyfforddi staff Sgil Cymru ar systemau allanol.
CLAIRE HOWELLS
Rheolwr Prosiect

Hyfforddodd Claire ‘ar y job’ yn y 90au cynnar gyda chwmniau lleol fel Teliesyn, BBC a Fiction Factory. Dros yr ugain mlynedd canlynol, gweithiodd ar raglenni dogfen, dramau-dogfen, ffilmiau a ffilmiau fer, a chyfresi drama i S4C, BBC, ITV, C4 a chynulleidfaoedd rhyngwladol. Yn 2002, newidiodd cyfeiriaid ei gyrfa i ail-hyfforddi a gwariodd Claire pum mlynedd yn rhedeg cwmni ‘Beetroot Landscapes’ yn dylunio a chreu gerddi. 3 o blant yn ddiweddarach, llwyddodd Claire i jyglo jobs mewn teledu, ffilm, BAFTA ac ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd cyn setlo yn 2023 gyda Sgil Cymru. Gyda Sgil Cymru, mae Claire yn datblygu/hyrwyddo holl weithgareddau y cwmni ond yn bennaf mae’n gweithio ar gynllun CRIW. Oes unrhywbeth yn fwy gwobrwyol na gweld grwp o brentisiaid yn blodeuo yn bersonol a phroffesiynol dros 12 mis mewn diwydiant (a all fod yn) anhreiddiadwy, ac yna yn llwyddo i lunio gyrfa i’w hunain? Mae’r cynllun CRIW yn hollol ryfeddol.
RHIAN WILLIAMS
Asesydd Sgil Cymru

Roedd Rhian yn ‘Cyfle Kid’. Fe aeth hi o gynhyrchiad i gynhyrchiad yn ddi-stop am ddwy flynedd heb lawer o gwsg ond gyda llond bol o wherthin a dysgu digonedd pob dydd oddi wrth pobl ffantastig a gwneud ffrindiau gydol oes. Cynhyrchiad cyntaf Rhian oedd ‘Heb ei Fai ‘ ar S4C (Ffilmiau Eryri) – ffrwydradau a cheir cyflym a ffisticyffs. Joio joio joio. Swyddogaeth a braint Rhian yw gweithio gyda’r prentisiaid a gwneud yn siwr eu bod yn cyflawni eu cymwysterau gyda gwen ar eu hwynebau a llam yn eu cam. Mae Rhian hefyd yn gobeithio i fedru rhoi cyngor pan fo galw achos ei bod bellach yn hen ac wedi gweithio ar ddigonedd o gynyrchiadau ac am i eraill elwa os yn bosib o’i phrofiadau.
LOWRI THOMAS
Rheolwr Prosiect
Dechreuodd Lowri weithio i BBC Cymru yn 1984 fel Rheolwr Llawr Cynorthwyol, yn gweithio ar bob math o raglenni yn yr adran blant, newyddion, garddio, drama ac ar ‘Pobol y Cwm’. Cafodd Lowri ddyrchafiad i fod yn Rheolwr Cynhyrchu ac yna mynd yn llawrydd yn 1994 fel Rheolwr Cynhyrchu a Rheolwr Lleoliadau. Gweithiodd yn teledu a ffilm, yn cynnwys dramâu fel Dr Who, o 2004 ymlaen. Roedd Lowri yn Rheolwr Prosiect ar brosiect adeiladu Porth y Rhath a oedd yn gyfrifol am symud PYC, Dr Who ag ‘Upstairs Downstairs’ i’w cartref newydd ym Mae Caerdydd. Ers 2023, mae Lowri wedi bod yn gweithio efo Sgil Cymru fel Rheolwr Prosiect ar Glwstwr Sgiliau’r BFI, yn edrych ar ôl prentisiaid CRIW’r gogledd, ymysg sawl peth arall.
TOM BLUMBERG
Rheolwr Gwefan a Chyfryngau Cymdeithasol

Astudiodd Tom fel Actor ym Mountview Academy of Theatre Arts yn Llundain. Ers graddio, mae Tom wedi cael amrywiaeth o swyddi wrth ochr ei yrfa fel actor (fel mae rhan fwyaf o actorion) yn cynnwys clerc rhestrau eiddo, adran gwisgoedd ar sioeau gerdd, gweinyddu, dysgu drama, tywysydd theatr, gweithio mewn amrywiaeth o swyddfeydd tocynnau…cyn cychwyn rhedeg cyfryngau cymdeithasol a gwefan Sgil Cymru. Mae Tom yn byw yn Toronto yng Nghanada ac mae e hefyd yn actio o bryd i’w gilydd!
JACK DAVIES
Cydlynydd Prosiectau

Dechreuodd Jack ei yrfa yn y cyfryngau yn 2023 ar ôl graddio o gwrs drama a theatr iaith Gymraeg Prifysgol De Cymru. Dechreuodd y daith gyda phrentisiaeth mewn Rheoli Cynhyrchu ar Pobol Y Cwm, gan gwblhau ei hyfforddiant gyda Sgil Cymru ochr yn ochr â’r lleoliad gwaith. Yna ymunodd â BBC Audio Wales & West yn cefnogi podlediadau a rhaglenni dogfen sain o bob genre yng Nghaerdydd a Bryste. Yn 2025, daeth Jack yn Gynorthwyydd Rheoli Cynhyrchu (PMA) Pobol Y Cwm ar gyfer cyfres 52, cyn ymuno â Sgil Cymru/Siop Un Stop – One Stop Shop.