RHEOLWR CYNHYRCHU 2016

Ymunodd saith o hyfforddeion brwdfrydig gyda ni yn Pinewood Studio Cymru yng Nghaerdydd am bythefnos o hyfforddianet dwys, gan gynnwys:

  • Gweithday Ymarferol
  • Trafodaethau gyda Gweithwyr Proffesiynol a Phrofiadol o’r Diwydiant
  • Hyfforddiant yn Movie Magic Scheduling a Budgeting

Sue Jeffries yw prif diwtor y cwrs.  Mae gan Sue dros tri deg pum mlynedd o brofiad mewn adrannau cynyrchu.  Wedi dechrau fel Cynorthwydd Cynhyrchu, fe weithiodd fel Arolygydd Sgript, Rheolwr Cynhyrchu a Chynhyrchydd Llinell, cyn cyrraedd y raddfa o Gynhyrchydd Cyfres, yn gweithio’r rhan fwyaf ar raglenni a ffilmiau plant, drama, ac adloniant. Mae ei chredydau yn cynnwys Cynhyrchydd Gweithredol ar Bright Lights (ffilm fer ddigidol), a Chyd-Gynhyrchydd ar The British Guide to Showing Off, ffilm ddogfen hyd nodwedd a ariannwyd gan Film London ac Asiantaeth Ffilm Cymru.  Tra fod Sue yn arwain yr hyfforddeion drwy’r cwrs, fe fydd nifer o Reolwyr Cynhyrchu a Rheolwyr Llinell profiadol yn ymuno â hi i rannu o’u profiad a’u gwybodaeth.

Cyn Hyfforddeion 

Megan

 

Megan Thomas, Abertawe

“Hapus gyda cynnwys y cwrs, yn enwedig yr amrywiaeth o siaradwyr.”

 

 

 

Joseph

 

Joseph Stacey, Manceinion

“Roedd dysgu Movie Magic yn ddwys ond yn foddhaol. Mwynheais i sut roedd hyn yn gysylltiedig gyda chwarae rôl Rheolwr Cynhyrchu, gyda’r sgript ‘Midnight Blue’. Mwynheais i bob dim. Dwi’n credu bod y cwrs wedi’i drefnu’n dda.”

 

 

Mike

 

Mike Ogden, Manceinion

“Cwrs gwych.”

 

 

 

 

SgilCymruLogoWithBoxFfion Taylor, Caerdydd

“Roedd y siaradwyr gwadd yn enwedig, yn wych. Ffordd da i gael syniad o swydd Rheolwr Cynhyrchu, o berspectif sawl person gyda profiad gwahanol.”

 

Kirsty

 

Kirsty Higginbottom, Manceinion

“Roedd y sesiwn CV ar beth mae ‘Da’ yn edrych fel, yn gret.”

 

 

 

Tricia

Tricia Linnane, Runcorn

“Gallai Sue a gang Sgil Cymru heb wneud mwy i’n hysbysu, annog ac addysgu ni, yn yr holl elfennau ymarferol o swydd yn y diwydiant cynhyrchu. Mae’ wedi bod yn bythefnos ffantastic.”

 

 

 

 

SgilCymruLogoWithBoxTracy Bowerman, Llundain

“Lleoliad gwych yn Pinewood. Doeddwn i ddim yn disgwyl cael cyfle i weld sefydliad ffilm yn y stiwdio. Mewnwelediad ffantastic.”

 

Siaradwyr Gwadd gan gynnwys:

Paul Sarony
Mae Paul Sarony yn Cynhyrchydd Llinell profiadol iawn sydd ar hyn o bryd yn ffilmio SHOW DOGS yn Pinewood Studio Cymru gyda chyfarwyddwr Raja Gosnell (MIRACLE ON 34th STREET, MRS DOUBTFIRE). Mae ei waith yn cynnwys SHINE a enwebwyd am Oscar a BABYLON A.D. efo Vin Diesel. Bydd Paul yn dechrau gweithio ar THE CROW yn fuan. Clicwch yma i weld CV trawiadol Paul.

Huw Penallt Jones
Mae Huw wedi gweithio fel Uwch Gynhyrchydd, ar ffilm Marc Evans ‘PATAGONIA’, a chyd-gynhyrchu ‘THE EDGE OF LOVE’ ffilm yn cynnwys Mathew Rhys a Keira Knightley. Fel Cynhyrchydd, mae Huw ar hyn o bryd yn y broses o olygu dau Ffilm – ‘DAMASCUS’ gyda John Hurt, ac ‘INTERLUDE IN PRAGUE’ gyda James Purefoy a Samantha Barks.

Gareth Davies
Mae Gareth yn Reolwr Llinell/Rheolwr Cynhyrchu Ffilm profiadol, gyda chredydau yn cynnwys ffilm a enwebwyd am wobr BIFA, ac ennillydd BAFTA – ‘THE PASSING’, ffilm cyntaf Craig Roberts fel Cyfarwyddwr – ‘JUST JIM’, ‘PANIC BUTTON’, ‘THE CHAMBER’, ‘B & B’, ‘DON’T KNOCK TWICE’, a ‘WATCHER IN THE WOODS’.
Cynhyrchodd Gareth ‘THE SLEEPING ROOM’, sef ffilm cynta’r DU a ariennir gan ‘crowdfunding’. Mae Gareth yn gweithio ar y cyd gyda llawer o gynhyrchwyr enwog rhyngwladol a’r DU, drwy greu cyllidebau. Mae’ hefyd yn hyfforddwr ‘Movie Magic Scheduling’ a ‘Movie Magic Budgeting’, ar gyfer sawl Prifysgol a chwmni hyfforddiant.

Jan Wilkins
Jan yw Sylfaenydd cwmni Creative Risk Solutions, yr unig gwmni yswiriant yng Nghymru, sy’n arbennigo yn y Cyfryngau. Mae gan Jan dros 30 mlynedd o brofiad o fewn y sector yswiriant i Deledu a Ffilm, gyda AON Pinewood sc am sawl blwyddyn yn gyfrifol am reoli’r cynllun Darlledwyr yn S4C, cyn sefydlu Creative. Cynhyrchiadau’n cynnwys: HINTERLAND, THE INDIAN DOCTOR, SUE PERKINS CITY OF JOY, RICHARD HAMMOND MIRACLES OF NATURE, MICHAEL SHEEN – FIRE UNDER THE CROSS, drama S4C BYW CELWYDD, ANITA, ALYS.

Natalie Jones – Creative Risk Solutions 
Mae Natalie yn aelod allweddol o’r tÎm, yn cynnig cyngor a chymorth ar drefniadau yswiriant ar gyfer comisiynau Ffilm a Theledu. Mae hi’n gweithio gyda Rheolwyr Cynhyrchu o’r ddechrau’r polisi yswiriant, hyd at gyflwyno. Ymunodd Natalie â tîm Creative 7 mlynedd yn ôl. Mae hi wedi gweithio ar sawl cynhyrchiad, gan gynnwys: ROWND A ROWND ,GWAITH CARTEF, HINTERLAND ,POSH PAWN, 35 DIWRNOD CYFRES, MY FIRST TATTOO.

Pryd oedd y cwrs?
Rhedodd y cwrs am 10 diwrnod, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, dros bythefnos, yn dechrau ar Dachwedd 21ain 2016, ac yn gorffen ar Rhagfyr yr 2il.

Cliciwch yma i weld ein cyrsiau hyfforddiant ffilm eraill.

Cefnogir y cwrs yma gan Gronfa Sgiliau Ffilm Creative Skillset, a Chronfa Film Forever Loteri Genedlaethol y BFI. 

BFI-Lottery-Creative-Skills