Mae cydweithrediad newydd rhwng Sgil Cymru, Grand Scheme Media a Addie Orfila Training yn gweld rhaglen flwyddyn gyfan o gyrsiau byr HETV Movie Magic o fis Ebrill ymlaen.
Bydd hyfforddiant byw ac ar-lein yn cael ei ddarparu ledled y Deyrnas Unedig i alluogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes teledu pen uchel i gael dealltwriaeth well o’r feddalwedd hanfodol a ddefnyddir ar gyfer amserlennu cynyrchiadau HETV.
Ariennir y rhaglen hon gan Gronfa Sgiliau Teledu Pen Uchel ScreenSkills sy’n cynnwys cyfraniadau gan gynyrchiadau teledu o’r radd flaenaf yn y DU.
Ar gyfer pwy
Mae’r hyfforddiant yn agored i bobl sydd eisoes yn y diwydiant sy’n gweithio neu’n symud drosodd i weithio yn HETV ond sydd eto i ddod i arfer â meddalwedd Movie Magic – fel rheolwyr cynhyrchu, ADau, cyfrifwyr cynhyrchu a chynhyrchwyr llinell .
Bydd yr hyfforddeion yn cael mynediad at drwyddedau hyfforddi a thanysgrifiadau Movie Magic a bydd angen iddynt osod y feddalwedd Movie Magic berthnasol ar liniadur y dylid dod ag ef i’r sesiwn hyfforddi.
Rydym bob amser yn croesawu ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: y rhai o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig; pobl ag anabledd; pobl o’r gymuned LGBTQ+ a’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
Rydym yn cynnig hyfforddiant cynhwysol. Os oes gennych unrhyw anghenion y gallwn eu diwallu yn ystod y broses recriwtio a thu hwnt, rhowch wybod i ni a byddwn yn hapus i weithio gyda chi i’w diwallu.
Cysylltwch â mark@grandscheme.tv os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Beth yw cynnwys y cwrs
Mae amserlenni effeithiol ac effeithlon yn hanfodol ar gyfer pob cynhyrchiad, a bydd y cwrs hwn yn mynd â hyfforddeion HETV drwy’r elfennau hanfodol o’u creu, gan ddefnyddio’r feddalwedd safonol a ddefnyddir yn fyd-eang, sef Movie Magic Scheduling.
Gan ddechrau gyda rhannu sgript drama yn elfennau, bydd hyfforddeion yn dysgu prif yrwyr amserlen wych a byddant yn cael cyflwyniad rhyngweithiol cam wrth gam i feddalwedd amserlennu Movie Magic. Byddant yn defnyddio’r meddalwedd a gyda’i gilydd yn creu amserlen gynhyrchu ac yn dysgu sut i’w drin yn unol â newidiadau o fewn cynhyrchiad.
Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:
- trosolwg o amserlennu Movie Magic
- mewngludo’r sgript i MMS
- torri lawr sgript i elfennau allweddol
- profiad ymarferol o ddefnyddio Movie Magic i greu dadansoddiadau
- adroddiadau o fewn MMS. Sut maen nhw’n cynorthwyo’r cynhyrchiad
- trosolwg o offer amserlennu eraill ee Studio Binder, Scenechronize
Bydd y cwrs amserlennu Movie Magic yn cael ei redeg ar sawl dyddiad ac mewn llawer o leoliadau ledled y DU yn ystod y flwyddyn.
Mae’r dyddiadau presennol fel a ganlyn:
- Manceinion: 12 Ebrill
- Briste: 1 Mai
- Belfast: 21 Mehefin
- Llundain: 28 Mehefin
- Leeds: 5 Gorffennaf
- Birmingham: 11 Gorffennaf
Bydd dyddiadau pellach yn cael eu hychwanegu ar gyfer Newcastle, Glasgow, Nottingham, Salford, Llundain a Brighton.
Bydd hyfforddiant yng Nghymru yn cael ei reoli a’i ddarparu gan Sgil Cymru. a bydd yn cynnwys pedair sesiwn ar-lein, a gyflwynir yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dyddiadau i ddilyn yn fuan.
Sut i ymgeisio
Bydd y cwrs Movie Magic yn cael ei redeg dros ddau ddiwrnod:
- mae’r diwrnod cyntaf yn ymdrin ag amserlennu Movie Magic ar y dyddiadau uchod – ymgeisiwch yma am y cwrs yma
- mae diwrnod dau yn ymdrin â chyllidebu Movie Magic – ymgeisiwch yma am y cwrs yma
Anogir hyfforddeion i wneud cais am y ddau ddiwrnod os yw’n berthnasol ond nid yw hyn yn orfodol.
Bydd manylion ar sut i ymgeisio ar gyfer cyrsiau ar-lein Sgil Cymru ar gael yn fuan.
Gwybodaeth i Gysylltu
Ebost: mark@grandscheme.tv