CWESTIYNAU CYFFREDIN

Cwestiynau Cyffredin am y Brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol (Lefel 3)

Beth yw Prentisiaeth?
Beth fydd Prentisiaid yn ei Ddysgu?
Ble fydd yr Hyfforddiant?
Pa Swyddi sy’n rhan o’r Brentisiaeth?
Oes Posib Ceisio am fwy nag un Swydd Prentis?
Pwy sydd ddim yn gallu Ymgeisio am y Rhaglen Brentisiaeth?
Pa Cymwysterau fydda i eu hangen i geisio am y Rhaglen Brentisiaeth hon?
A fydd Prentisiaid yn cael eu talu, neu oes rhaid iddyn nhw dalu costau astudio?
Ble fydd y Prentisiaid yn Gweithio?
Sut fydd Rhaglen y Brentisiaeth yn cael ei Strwythuro?
Beth sy’n Ddisgwyledig o’r Prentisiaid ar ôl iddynt gael eu Derbyn ar y Prentisiaeth?
Sut fydd Prentisiaid yn cael eu Cefnogi ar y Prentisaeth?
Sut fydd Prentisiaid yn Elwa o fod yn rhan o’r Prentisiaeth?
Y Broses Gyfweld

BETH YW PRENTISIAETH?

Cyfle i weithio a dysgu ar yr un pryd yw prentisiaeth.  Mae bod yn brentis yn golygu bod gen ti swydd sy’n cynnwys ennill cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau hanfodol tra dy fod yn gweithio ac yn ennill cyflog.

Y math o brentisaethau mae Sgil Cymru yn ei gynnig yw:

BETH FYDD PRENTISIAID YN EI DDYSGU?

Bydd Prentisiaid yn dysgu am y sgiliau sydd eu hangen i adeiladu gyrfa yn y cyfryngau.

Byddant hefyd yn gweithio tuag at Diploma mewn Creu i’r Cyfryngau, Cynhyrchu a Chymorth Crefft, Sgiliau Hanfodol a Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogwyr. Gwasgwch yma am rhagor o wybodaeth am y fframwaith.

BLE FYDD YR HYFFORDDI YN DIGWYDD?

Rhannir yr hyfforddiant rhwng yr ystafell ddosbarth (dysgu rhithwir) a hyfforddiant yn y gweithle (lleoliadau cynhyrchu yng ngogledd Cymru)

PA SWYDDI SY’N RHAN O’R BRENTISIAETH?

Bydd y rôlau sy’n cael eu cynnig yn dibynnu ar ba swyddi mae cwmniau yn gallu eu cynnig. Yn y gorffennol mae’r rhain wedi cynnwys:

  • Adran Gamera Grip
  • Ôl-Gynhyrchu
  • Adran Gelf
  • Swyddfa Cynhyrchu ac ar set (rhedwr)
  • Adran Leoliadau

OES POSIB CEISIO AM FWY NAG UN SWYDD PRENTIS?

Dim ond UN rôl mae posib i chi geisio amdani.

PWY SYDD DDIM YN GALLU YMGEISIO AM Y RHAGLEN BRENTISIAETH?

Mae’r brentisiaeth yn gymhwyster lefel 3 sy’n gyfwerth â Lefelau A.

Nid yw’r prentisiaethau yma wedi’i anelu at raddedigion.

PA CYMWYSTERAU FYDDA I EU HANGEN I GEISIO AM Y RHAGLEN BRENTISIAETH HON?

O leia 4 TGAU gyda’r graddau A i C (gan gynnwys Saesneg ac Mathemateg, os yn bosib) neu gyfwerth.

A FYDD PRENTISIAID YN CAEL EU TALU, NEU OES RHAID IDDYN NHW DALU COSTAU ASTUDIO?

Nad oes rhaid i’r prentisiaid dalu ceiniog tuag at eu hyfforddiant a byddant yn cael eu thalu.

BLE FYDD Y PRENTISIAID YN GWEITHIO?

Lleolir y cwmniau yng ngogledd Nghymru, ond mae’n bosib y bydd angen i rai prentisiaid deithio yn achlysurol i setiau a lleoliadau ffilmio mewn ardaloedd eraill.

SUT FYDD RHAGLEN Y BRENTISIAETH N CAEL EI STRWYTHURO?

Rhaglen llawn-amser dros 12 mis yw hon a dyma fydd y strwythur:

  • Bydd y rhaglen yn dechrau gyda bloc dysgu rhithwir sef cwrs rhagarweiniol yn y diwydiannau creadigol. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i’r prentisiaid i gyfarfod â staff Sgil Cymru, cyfarfod â brentisiaid eraill fydd hefyd yn dilyn y rhaglen a chyfarfod â pobl broffesiynol o’r diwydiant. Bydd prentisiaid yn gweithio tuag at eu cymhwyster yn ystod y cyfnod yma yn ogystal ag ennill sgiliau a gwybodaeth cyn mynd allan ar leoliad.
  • Yn dilyn y cwrs rhagarweiniol bydd pob prentis yn mynd at eu lleuoliad lle byddant yn gweithio yn eu swydd yn ennill y sgiliau â’r wybodaeth byddant ei angen i weithio yn y diwydiannau creadigol.  Darperir hyfforddiant bellach yn y dosbarth (rhithwir) yn ystod cyfnod 12 mis y rhaglen.
  • Yn agos at ddiwedd y rhaglen bydd prentisiaid yn cwblhau’r Rhaglen Gloi.  Bydd hwn yn paratoi’r prentisiaid i ddod yn weithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol.
  • PWYSIG – Yn dilyn 12 mis o ddysgu a hyfforddiant y gobaith yw y bydd nifer o’r prentisiaid yn derbyn gwaith gan eu cemniau lleoliad.  Ond, ni ellir gwarantu hyn gan bod y diwydiant yn newid yn gyson a bod cwmniau cynhyrchu yn dibynnu ar gomisiynau er mwyn ennill gwaith yn y dyfodol. Y tebygolrwydd yw y bydd unigolion wedi dilyn y rhaglen 12 mis yn troi’n weithwyr llawrydd yn hytrach nag yn gyflogai llawn amser.

PWYSIG – Amserau Gwaith tra mewn Swydd

Mae natur cynhyrchiad yn golygu’n bur aml bod angen hyblygrwydd a bydd gofyn i’r prentis weithio oriau hir dros gyfnodau amser dwys.

Rhaid i chi fod yn ymwybodol ei bod hi’n bosib y bydd angen i chi weithio hyd at 12 awr y diwrnod gan gynnwys penwythnosau.  Bydd diwrnodiau byrrach a/neu gwyliau ychwanegol yn gwneud yn iawn am hyn.

BETH SY’N DDISGWYLEDIG O’R PRENTISIAID AR ÔL IDDYNT GAEL EU DERBYN AR Y PRENTISIAETH?

Bydd disgwyl i chi:

  • weithio fel aelod CRIW iau a chwblhau tasgau a osodwyd gan eich goruchwyliwr
  • fynychu cyfarfodydd monitro pob 8 wythnos gyda Pennaeth Hyfforddi Sgil Cymru yn ogystal a cyfarfod eich asesydd o’r diwydiant yn reolaidd er mwyn adeiladu portffolio uned cymhwysedd
  • fynychu pob sesiwn dosbarth rhithwir
  • fynychu cyfarfodydd monitro lleoliad gyda chynrychiolydd o’r lleoliad hyfforddi
  • gwblhau pob elfen o’r Fframwaith er mwyn cwblhau’r cymhwyster

SUT FYDD PRENTISIAID YN CAEL EU CEFNOGI AR Y RHAGLEN?

  • Bydd aelod o staff Sgil Cymru yn gweithio gyda pob prentis i greu cynllun hyfforddi unigol fydd yn adlewyrchu anghenion hyfforddi’r unigolyn a bydd cynnydd yn cael ei fonitro
  • Bydd asesydd yn cynorthwyo/arwain a chefnogi’r prentis i ennill y cymhwyster
  • Bydd aelod o staff Sgil Cymru yn cyfarfod gyda pob prentis er mwyn trafod cynnydd, a bydd aelod o staff yn y cwmni lleoliad yn cael ei apwyntio fel mentor o’r diwydiant i gynnig cefnogaeth a chyngor pan fo angen
  • Bydd yr arolygydd o’r cwmni lleoliad yn rhoi adborth i Sgil Cymru ar gynnydd y prentis a bydd yn cael ei ddefnyddio i fonitro’r anghenion hyfforddi

SUT FYDD PRENTISIAID YN ELWA O FOD YN RHAN O’R RHAGLEN?

Ar ddiwedd y 12 mis bydd gan prentisiaid:

  • Profiad mewn gweithle – hyfforddiant ymarferol mewn swydd
  • Portffolio o waith
  • Cysylltiadau yn y diwydiant
  • Gwella tebygolrwydd o gael swydd
  • Sgiliau technegol a proffesiynol
  • Diploma mewn Crewy i’r Cyfryngau, Cynhyrchu a Chymorth Crefft

Y BROSES GYFWELD

  • Yn dilyn cwblhau creu’r rhestr fer bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i fynychu Gweithdy rhithwir. Yma byddwch yn cael cyfarfod â staff Sgil Cymru.
  • Yn dilyn y gweithdai, cynhelir cyfweliadau rhithwir Sgil Cymru.
  • Byddwn yn gadael i chi wybod os oes rhaid i chi baratoi unrhyw ddeunydd ar gyfer y cyfweliad ymlaen llaw.  Bodd bynnag bydd rhaid i chi arddangos eich sgiliau, dealltwriaeth a’ch potensial i gymryd rhan yn y rhaglen hwn.

Os ydych chi’n llwyddiannus yn dilyn y cyfweliad, bydd yn ofynnol i chi gymryd prawf llythrennedd digidol, rhifedd a llythrennedd. Wedi hyn bydd Sgil Cymru yn rhoi gwybod i chi drwy ebost os y buoch yn llwyddiannus yn cael lle.

Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa Caerdydd ar 07843 779 870 / help@sgilcymru.com