Prentis Rhedwr – Boom Plant

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                        Boom Plant
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Rhedwr
Lleoliad:                      Caerdydd

Am y Sefydliad

Mae Grŵp Boom yn un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf Cymru. Sefydlwyd ni yn 1994, ac mae’r cwmni bellach yn cynhyrchu dros 400 awr o gynnwys aml-genre yn flynyddol i S4C, BBC, ITV a C5. Drwy ein hadrannau teledu a digidol, Boom Cymru, Boom a Boom Plant, mae gan y grŵp brofiad helaeth o gynhyrchu cynnwys ffeithiol, adloniant ffeithiol, adloniant, drama a phlant. Un o brif nodweddion ein cynyrchiadau yw’r cyfuniad o stori gref a gwerthoedd cynhyrchu uchel. Mae Boom Cymru wedi ymroi i gynhyrchu cynnwys o’r safon uchaf i’r darlledwyr Cymreig – S4C, BBC Cymru ac ITV Cymru, ac mae adran Boom yn canolbwyntio ar greu cynnwys cymhellgar i ddarlledwyr rhwydwaith Prydeinig a’r farchnadoedd ryngwladol. Rydym hefyd yn falch iawn o’n cynnwys adloniannol a dyfeisgar ar gyfer yr amryw blatfformau cymdeithasol.

Fel un o gynhyrchwyr cynnwys plant mwyaf Prydain, mae arbenigedd Boom Plant yn pontio rhaglenni o oedran meithrin i blant 13 oed. Mae’r adran yn gyfrifol am ran helaeth o gynnwys meithrin a phlant S4C, ac yn coflogi dros 50 aelod o staff llawn amser. Wedi ei lleoli ym mhencadlys Boom yn Gloworks, Caerdydd, mae Boom Plant yn gartref i 2 stiwdio HD, galeri gweithredol ac adnoddau ôl-gynhyrchu eang.

Mae grŵp Boom yn cyflogi tua 230 aelod o staff yng Nghymru, ac yn ychwanegol i adrannau Boom, Boom Cymru, Boom Social a Boom Plant, mae’r grŵp hefyd yn cynnwys cwmni adnoddau ac ôl-gynhyrchu blaenllaw, Gorilla; cwmni effeithiau arbennig a graffeg, Bait Studio; a’r cwmni animeiddio rhyngwladol, Cloth Cat.

Disgrifiad Swydd

Rhedwr Boom Plant
Mae’r Rhedwr yn gweithredu fel cynorthwyydd cyffredinol o fewn yr Adran ac ar gynyrchiadau byw ac ar leoliad ar draws Cymru i helpu sicrhau fod y cynhyrchiad yn rhedeg yn esmwyth.
Mae’r rôl yn cynnig cyfleuon i ennill profiad hanfodol o’r broses o gynhyrchu cynnwys ac yn cynnig cyfleuon rhwydweithio eang sy’n werthfawr o fewn y Cyfryngau.

Bydd y rôl yn cynnwys:

  • Nôl a chludo props ac offer sy’n gysylltiedig â’r cynhyrchiad
  • Cludo plant, cyflwynwyr, cast, criw a staff cynhyrchu i leoliadau saethu a stiwdios;
  • Gyrru ceir a faniau rhwng lleoliadau;
  • Gwneud ymchwil sylfaenol;
  • Ateb y ffôn;
  • Llungopio a gwaith gweinyddol cyffredinol.
  • Cymorth cyffredinol i’r adran yn y swyddfa ac ar leoliad

Gofynion hanfodol:

  • Trwydded gyrru llawn a glân.
  • Dylai ymgeiswyr gael 4 mlynedd neu’n fwy o brofiad gyrru (ar gyfer gofynion yswiriant, oherwydd dyletswyddau gwaith)
  • Yn rhugl yn y Gymraeg

Fframwaith

Tra’n gweithio i Boom Plant byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.

Cyflog

Cyflog i’w gadarnhau – yn dibynnol ar brofiad.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Isafswm Cyflog Prentis Cenedlaethol, ewch i www.gov.uk/national-minimum-wage-rates

Sut i wneud cais

Cliciwch yma i lenwi’r ffurflen gais.

Os oes gennych gwestiynau am y rhaglen brentisiaeth, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin.

Dyddiad Cau

14.00 ar y 23ain o Orffennaf, 2019