Cyrsiau ScreenSkills Movie Magic Scheduling a Budgeting Ar-lein mewn cydgysylltiad â Sgil Cymru

Mae’r cyrsiau Movie Magic Scheduling a Budgeting ar-lein, y feddalwedd safon diwydiant i’r diwydiant ffilm, nawr ar agor i geisiadau. Mae’r cyrsiau wedi eu cefnogi gan ScreenSkills gan ddefnyddio cyllid National Lottery drwy y British Film Institute (BFI) fel rhan o’r rhaglen Future Film Skills, Mae’r cyrsiau yma, sydd fel arfer yn costio £200 i’r cyfranogwr, ar gael am ddim, drwy gefnogaeth hael ScreenSkills.

Ar gyfer pwy mae’r cyrsiau yma?

Mae’r feddalwedd yma fel arfer yn cael ei ddefnddio gan Gyfarwyddwyr Cynorthwyol 1af, Cynhyrchwyr Llinell a Rheolwyr Cynhyrchu, ac hefyd yn aml gan 2il Gyfarwyddwyr Cynorthwol, Cydlynwyr Cynhyrchu a Chynhyrchwyr. Annogwn y rhain sydd yn barod yn gweithio yn broffesiynnol yn y swyddi yma i ymgeisio, yn ogystal â’r rhai sydd am gamu fyny.

Mae’r ddau gwrs ar gael ar y lefel Dechreuwr neu Canolog/Uwch. Mae’r cwrs Dechreuwr yn addas i’r rheiny sydd yn newydd ddyfodiad i’r diwydiant, neu efo hyd at ddwy flynedd o brofiad proffesiynnol yn y diwydiant. Mae’r cwrs Canolog/Uwch wedi ei anelu at y rhai sydd â thair blynedd neu fwy o brofiad diwydiant, a sydd â gwybodaeth ymarferol o’r pecynnau.

Beth sydd yn y cwrs?

(gan ddefnyddio termynoleg MMS & MMB):

Amserlennu Movie Magic

  • Introduction to Scheduling
  • Marking-up a Script
  • Breakdown Sheets: Element Manager and Category Manager
  • Inputting Information
  • Strip Board: Sorting, Daybreaks, Titles and Boneyard
  • Calendar Manager
  • Scheduling Procedures
  • Reporting (Day-out-of-days)
  • Exporting/Printing

Cyllidebu Movie Magic

  • Overview of EP Movie Magic Budgeting
  • Introduction to Budgeting
  • Setting-up your Budgeting format
  • Basic Controls and Navigation
  • Top Sheet, Account Level and Detail Level
  • Exercise in Globals, Groups and Fringes
  • Currencies
  • Budgeting Principles and Practices
  • Reporting/Printing

Beth yw patrwm y cwrs?

Cyflwynir yr hyfforddiant drwy y platfform Zoom. Mae’n hanfodol fod pob cyfranogwr efo PC neu Mac a chysylltiad rhyngrwyd. Cyn y cwrs, bydd y cyfranogwyr ar y cwrs lefel Dechreuwr yn cael linc i lawrlwytho trwydded dros dro Movie Magic. Bydd disgwyl fod pawb ar y cwrs lefel Canolog/Uwch yn barod wedi prynu eu pecyn eu hunain, ac y byddant yn medru defnyddio hwn yn ystod y cwrs.

Gallwch gyrchu Zoom drwy borwr we, neu drwy ei lawrlywtho Zoom i’ch dyfais. Os nad oes gennych ddigon o adnodddau i fynychu y cwrs hwn, cysylltwch â ni am fanylion pellach am gefnogaeth cyrchu.

Pryd mae’r cyrsiau?

Scheduling
Mawrth 9fed Mehefin
Mawrth 16eg Mehefin

Budgeting
Mercher 10fed Mehefin
Mercher 17ed Mehefin

Noder fod y ddau gwrs Dechreuwr a Canolog/Uwch yn digwydd ar yr un diwrnod, felly mae angen i’r cyfranogwr benderfynnu ar lefel y cwrs yn unol a’u profiad.

Pwy yw tiwtoriaid y cwrs?

Tiwtoriaid y cwrs yw Dathyl Evans a Dewi Griffiths.

Mae Dathyl Evans wedi gweithio yn y byd cynhyrchu ers pum mlynedd ar hugain. Mae ei chefndir mewn Cynhyrchu fel Cydlynydd, gan weithio ar gyfresi drama amrywiol ar gyfer y BBC a S4C lle mae ei chredydau yn cynnwys cyfresi rhwydwaith amser brig fel Casualty a Dr Who. Mae Dathyl wedi bod yn Rheolwr Cynhyrchu ers 2004, gan weithio’n bennaf ym maes Drama deledu a ffilm, ond hefyd ar draws ystod eang o genres eraill gan gynnwys, dogfennau arsylwi arloesol, rhaglenni dogfen traddodiadol a rhaglenni adloniant ysgafn amrywiol. Mae ei chredydau Rheolwr Cynhyrchu yn cynnwys – addasiad ffilm o ‘Under Milk Wood’ gyda Rhys Ifans a Charlotte Church; ‘One Born Every Minute’ y gyfres poblogaidd Channel 4; ‘Denmark’ gyda Ralph Spall wedi’i osod yn Nenmarc a Chymru a’r gyfres doucmentary ‘Deserts’ cyd-gynhyrchiad gyda National Geographic, France Télévisions a Green Bay o Gaerdydd, a ffilmiwyd yn rhai o’r anialwch caletaf ledled y byd.

Ymunodd Dewi Griffiths â’r diwydiant ffilm yng nghanol yr 1980au ar ôl graddio o goleg Polytechnig Cymru (USW bellach). Dechreuodd fel golygydd ffilm, gan symud i’r Adran Gynhyrchu ar brosiectau drama arloesol yr 1980au i S4C, y BBC a HTV. Gweithiodd trwy rengoedd Rhedwr, Rheolwr Lleoliad, Cyfarwyddwr Cynorthwyol 3ydd, 2il a 1af, gan weithio ar ffilmiau nodwedd a drama deledu safon uchel. Digwyddodd y cynyrchiadau hyn ledled y DU, Ewrop, a’r Dwyrain Canol, Asia a Gogledd America. Bu’n rhedeg cyfresi drama cymhleth mawr ar gyfer Sky, Channel 4 ac ITV cyn cynhyrchu ei ffilmiau ei hun trwy ei gwmni Garland Stone Productions. Yna rhedodd Dewi yr MA mewn Cynhyrchu Ffilm ym Mhrifysgol Morgannwg. Yna, fe gafodd swydd gan bennaeth Ysgol Ffilm Prifysgol Southern California, a chyn bennaeth Sefydliad Ffilm America fel pennaeth Cynhyrchu ar eu campws lloeren, Sefydliad y Môr Coch ar gyfer Celfyddydau Sinematig yn yr Iorddonen, gan oruchwylio dros 500 o ffilmiau, llawer ohonynt yn brosiectau a enillodd wobrau yn rhyngwladol. Dychwelodd Dewi i USW yn 2016 i redeg yr MA mewn Cynhyrchu Ffilm. Mae’n parhau i ddatblygu prosiectau ffilm, ysgrifennu nofelau a gweithio yn niwydiant hyfforddi ffilm Prydain.

Beth yw’r gost?

Mae’r cwrs hwn yn rhad ac am ddim, diolch i gefnogaeth Screenskills trwy ddefnyddio cyllid BFI fel rhan o’r rhaglen Future Film Skills.

Sut ydwi/n ymgeisio am y cwrs?

I ymgeisio, gyrrwch CV ac ebost byr yn dweud pam fod yr hyfforddiant yma yn gweddu i chi i help@sgilcymru.com.   Dynodwch yn glir os ydych am fynd ar gwrs Dechreuwr neu Canolwr/Uwch, a dyddiad y cwrs yr hoffwch fynd arno.

5 o’r gloch ar ddydd Mercher y 3ydd o Fehefin 2020 yw’r dyddiad cau am y cyrsiau yma. Mae’r gofod ar bob cwrs yn brin, felly rydym yn anog ceisiadau mor fuan ag y bo modd. Tasech chi am gael cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, yna nodwch hynny yn eich ebost.

Am ScreenSkills

ScreenSkills yw’r corff wedi ei arwain gan ddiwydiant ar gyfer y diwydiannau creadigol, seiliedig ar sgrîn yn y DU – animeiddio, ffilm, gemau, teledu gan gynnwys plant a rhaglenni ar  y lefel uchaf, VFX a thechnoleg trochiedig.  Rydym yn gweithio dros y wlad gyfan i adeiladu gweithlu cynhwysol gyda’r sgiliau sydd eu hangen nawr, ac yn y dyfodol.   www.screenskills.com